Cynllun cenedlaethol yw Protocol Herbert sy’n cael ei gyflwyno’n lleol gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru er mwyn annog gofalwyr ac aelodau teulu i lenwi ffurflen sy’n rhoi gwybodaeth bwysig am unigolyn bregus i’w defnyddio pe baent yn mynd ar goll. Gall hyn gynnwys manylion am lefydd y maent yn hoff o fynd iddynt, unrhyw feddyginiaeth y mae’n rhaid iddynt ei chymryd, eu trefn ddyddiol arferol, disgrifiad a llun diweddar ohonynt.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth a’r ffurflen yn: Protocol Herbert