Nod y PRUDiC yw sicrhau bod yr ymateb yn ddiogel, cyson ac yn sensitif i’r rhai dan sylw, a bod unffurfedd ar draws Cymru yn yr ymateb amlasiantaeth i farwolaethau annisgwyl mewn plentyndod.
Mae hwn yn ymateb gweithdrefnol amlasiantaeth a’i fwriad yw sicrhau safon isafswm ar draws Cymru, ac nid yw’n benodol i asiantaeth na disgyblaeth. Mae’n amlinellu’r hyn sydd angen ei gyflawni ac yn rhoi awgrymiadau eang ynghylch swyddogaethau asiantaethau. Gellid cofnodi unrhyw amrywiant gyda’r rhesymeg o fynd oddi wrth y broses. Nid yw’r arweiniad hwn yn atal unrhyw arferion da presennol gan asiantaethau neu weithwyr proffesiynol i wella’r ymateb gweithdrefnol hwn.
Bydd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn cadw at y safon a amlinellir yn y dogfennau cenedlaethol.
Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English