Mae gwefan newydd, IAmReady (ddim ar gael yn Gymraeg) wedi cael ei lansio i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr hanesyddol o gam-drin plant yn rhywiol a chamfanteisio’n rhywiol ar blant. Mae’r safle’n cynnwys gwybodaeth am y dewisiadau sydd ar gael i bobl sy’n dymuno bod achos blaenorol yn cael ei adolygu, yn cynnwys achosion lle na fu camau pellach neu allai fod yn gymwys am adolygiad annibynnol.
Gan gydnabod y gall gymryd amser i fod yn ddewr i ddweud a rhannu’r hyn a ddigwyddodd, mae IAmReady yn cynnig dull cefnogol wedi’i lywio gan drawma, gan alluogi pobl i rannu gwybodaeth pan maen nhw’n teimlo’n barod a’u helpu i gael gafael ar lwybrau a gwasanaethau cymorth priodol.
I ddysgu mwy am y gwasanaeth a’r cymorth sydd ar gael, ewch i: www.iamready.org.uk
Helpwch i godi ymwybyddiaeth drwy rannu’r adnodd hwn gyda chydweithwyr, partneriaid a chymunedau allai elwa ohono.


