Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru https://www.bwrdddiogelugogleddcymru.cymru/

Cynhelir y wefan hon gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru. https://www.bwrdddiogelugogleddcymru.cymru/

Sut y dylech chi allu defnyddio’r wefan hon

Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Mae hyn yn golygu y dylech allu:

  • chwyddo’r sgrin hyd at 300% gwaith yn fwy heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • llywio drwy ran fwyaf y wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio drwy ran fwyaf y wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar ran fwyaf y wefan yn defnyddio rhaglen darllen sgrin (yn cynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o NVDA)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio, os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rhannau o’r wefan hon yn hollol hygyrch. Er enghraifft:

  • nid oes modd neidio i’r prif gynnwys wrth ddefnyddio meddalwedd darllen sgrin
  • nid oes modd addasu uchder y llinellau na’r bylchau rhwng y testun
  • nid mwyafrif y dogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin

Adborth a manylion cyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

  • anfonwch e-bost at regionalsafeguarding@denbighshire.gov.uk
  • ffoniwch 01824 706000

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb cyn pen 10 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd:

  • anfonwch e-bost at regionalsafeguarding@denbighshire.gov.uk
  • ffoniwch 01824 70600

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd ar y wefan

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

  • nid oes modd neidio i’r prif gynnwys wrth ddefnyddio meddalwedd darllen sgrin
  • nid oes modd addasu uchder y llinellau na’r bylchau rhwng y testun

Rydym yn gweithio gyda’n datblygwr i ddatrys y materion hyn erbyn a bydd yn cynnal asesiad arall o fewn deuddeg mis.

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol gyda safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2, oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys sydd wedi ei nodi isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

  1. Nid yw rhai dogfennau PowerPoint yn bodloni cymhareb cyferbyniad lliw. Ddim yn cwrdd a meini prawf y WCAG 2.2: 1.4.3 Cyferbyniad (Lleiafswm).
  2. Mae testun amgen ar goll o rai dogfennau PowerPoint. Mae’n bosibl na fydd gan ddefnyddwyr technolegau cynorthwyol fynediad at wybodaeth sy’n cael ei chyfleu mewn delweddau. Ddim yn cwrdd a meini prawf y WCAG 2.2: 1.1.1 (Cynnwys di-destun).
  3. Nid oes gan rai elfennau dethol enwau hygyrch. Ddim yn cwrdd a meini prawf y WCAG 2.2: 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth).
  4. Nid yw rhai labeli’n bodloni’r isafswm cymhareb cyferbyniad lliw neu â thestun amgen. Ddim yn cwrdd a meini prawf y WCAG 2.2: 1.4.3 Cyferbyniad (Lleiafswm), a WCAG 2.2: 1.1.1 (Cynnwys di-destun).
  5. Rôl rhiant ARIA ddim yn bresennol: menu, Saesneg / Cymraeg- ddim yn cwrdd a meini prawf y WCAG 2.2: 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthynas).

Rydym yn gweithio gyda’n datblygwr i ddatrys y materion hyn erbyn 1 Medi 2026.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

PDFs a dogfennau eraill

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.


Efallai na fydd gwahanol fersiynau o’n hadroddiadau a’n strategaethau yn bodloni gofynion hygyrchedd, megis dogfennau hawdd eu darllen, ond bydd fersiwn o bob adroddiad neu strategaeth sydd yn bodloni safonau hygyrchedd. Dylai unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau Word newydd neu ddiwygiedig a gyhoeddwn, fodloni safonau hygyrchedd, os na fydd fersiwn html hygyrch amgen yn cael ei ddarparu. Efallai na fydd rhai dogfennau PDF sydd wedi’u creu gan sefydliadau partner neu’n seiliedig ar dempledi hŷn yn hygyrch.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

  • Rydym yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o fewn tîm y wefan o’r angen i fodloni rheoliadau hygyrchedd WCAG 2.2 AA.
  • Mae gennym reolaethau ar waith i sicrhau bod yr holl gynnwys newydd a gyhoeddir ar y wefan yn cydymffurfio â rheoliadau hygyrchedd WCAG 2.2 AA.
  • Gosod nod o gomisiynu archwiliad llawn yn y flwyddyn ariannol nesaf 2026/27.

Paratoi y datganiad hygyrchedd hwn

Profwyd y wefan hon ym mis Medi 2025 yn erbyn safon WCAG 2.2 AA. Cynhaliwyd y prawf hwn o sampl gynrychioliadol o dudalennau gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC).

Fe wnaethon ni brofi ein prif blatfform gwefan, sydd ar gael yn https://www.bwrdddiogelugogleddcymru.cymru/

Defnyddiwyd canfyddiadau ein profion sylfaenol ein hunain a gynhaliwyd rhwng 11 Medi 2025 a 18 Tachwedd 2025. Cynhaliwyd profion awtomatig yn erbyn safonau WCAG 2.2 AA gyda’r fersiwn diweddaraf o Axe  a https://wave.webaim.org/  a phrofion â llaw yn defnyddio Silktide Accessibility Checker https://silktide.com/toolbar/.

Paratowyd y datganiad hwn ar 20 Tachwedd 2025. Cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf a adolygu ar 29 Ionawr 2026.