Categorïau data personol rydym yn eu casglu:
Eich enw a’ch cyfeiriad e-bost.
Ffynhonnell y data personol:
Bydd y data personol rydym yn ei gadw wedi ei ddarparu yn uniongyrchol gennych chi wrth i chi gofrestru i dderbyn y newyddlen wythnosol.
Pobl rydym yn rhannu data gyda nhw:
Nid ydym yn rhannu data gydag eraill.
Eich hawliau data:
1. Yr hawl i gael gwybod
Rhaid i ni fod yn gwbl dryloyw gyda chi drwy ddarparu gwybodaeth ‘mewn ffordd gryno, dryloyw, dealladwy a hawdd cael mynediad ati, gan ddefnyddio iaith glir ac eglur’. Mae’n hysbysiad preifatrwydd yw un o’r ffyrdd rydym yn ceisio rhoi gwybod i chi sut caiff data ei drin.
2. Hawl mynediad
Mae gennych hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol. Am fanylion ar sut gallwch gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, anfonwch e-bost at regionalsafguarding@denbighshire.gov.uk.
3. Hawl i gywiro
Mae gennych hawl heb oedi gormodol i ofyn am gywiro neu ddiweddaru data personol anghywir.
4. Hawl i gyfyngu prosesu
Gallwch ofyn am gyfyngu prosesu er enghraifft pan fydd amheuaeth am gywirdeb y data personol Mae hyn yn golygu mai dim ond storio’r data personol y gallwn ei wneud, ac nid ei brosesu ymhellach, ar wahân i mewn amgylchiadau cyfyngedig.
5. Hawl i Wrthwynebu
Gallwch wrthwynebu i fathau penodol o brosesu fel marchnata uniongyrchol. Bydd yr hawl i wrthwynebu hefyd yn berthnasol i fathau eraill o brosesu fel prosesu at ddibenion gwyddonol, ymchwil hanesyddol neu ystadegol (er mae’n bosib y bydd prosesu yn dal i fynd rhagddo er budd y cyhoedd).
6. Hawliau ar wneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio
Mae’r gyfraith yn darparu dulliau gwarchod i chi yn erbyn y risg bod penderfyniad a allai o bosib fod yn niweidiol yn cael ei gymryd heb ymyrraeth ddynol. Nid yw’r hawl yn berthnasol mewn amgylchiadau penodol fel pan fyddwch yn rhoi eich caniatâd penodol.
7. Hawl i gludadwyedd Data
Pan fydd data personol yn cael ei brosesu ar sail caniatâd a gan ddulliau awtomatig, mae gennych hawl i gael eich data personol wedi ei drosglwyddo yn uniongyrchol gan un rheolydd data at un arall pan fydd hyn yn dechnegol bosib.
8. Hawli i ddileu neu ‘hawl i gael eich anghofio’
Gallwch ofyn am ddileu eich data personol gan gynnwys pan:
- nad yw’r data personol yn angenrheidiol bellach o safbwynt y pwrpas y cafodd ei gasglu.
- nad ydych bellach yn rhoi eich caniatâd, neu
- fyddwch yn gwrthwynebu’r prosesu.
Mae’r Comisiynydd Gwybodaeth yn rheoleiddio’r modd mae sefydliadau’n ymdrin â data yn y DU ac yn gweithio i gynnal hawliau data dinasyddion ac mae mwy o wybodaeth am eich hawliau ar wefan Y Comisiynydd Gwybodaeth.
Tynnu caniatâd yn ôl:
Os gwnaethoch roi caniatâd drwy roi eich gwybodaeth bersonol i ni a’ch bod wedi newid eich meddwl ac nad ydych bellach am i’r wefan ddal eich gwybodaeth, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda. I ddechrau, cysylltwch â regionalsafguarding@denbighshire.gov.uk
Dylai tynnu caniatâd yn ôl fod mor hawdd i’w wneud â phan wnaethoch roi caniatâd yn y lle cyntaf. Os nad hynny yw eich profiad gyda gwasanaeth penodol, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni am eich anawsterau er mwyn i ni allu ei gywiro.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r tab ‘datdanysgrifio’ ar waelod y newyddlen e-bost.
Os ydych yn cael unrhyw drafferth tynnu caniatâd yn ôl, anfonwch e-bost at regionalsafeguarding@denbighshire.gov.uk
Gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio:
Nid ydym yn gwneud penderfyniadau awtomataidd nac yn proffilio.
Yr hawl i gwyno am drin data:
Rydym yn gosod safonau uchel iawn ar gyfer casglu a defnyddio data personol yn briodol. Felly rydym yn trin unrhyw gwynion am drin data yn ddifrifol iawn. Rydym yn eich annog i ddwyn ein sylw at achosion lle mae defnyddio data yn annheg, yn gamarweiniol neu’n amhriodol ac rydym hefyd yn croesawu awgrymiadau am welliant.
Penderfyniad:
Byddem yn gofyn i chi geisio datrys problemau trin data gyda ni yn uniongyrchol.
Rydym wedi ein hymrwymo i drin data yn briodol ac rydym yn ffyddiog y gallwn ddatrys y rhan fwyaf o faterion yn anffurfiol: regionalsafeguarding@Denbighshire.gov.uk
Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English