Adolygiad Diogelu Unedig Sengl
Nod yr ADUS yw creu un broses adolygu sy’n ymgorffori dull gweithredu amlasiantaethol pan fodlonir y meini prawf ar gyfer un neu ragor o’r adolygiadau canlynol:
- Adolygiad Ymarfer Oedolion (boed yn gryno neu’n estynedig);
- Adolygiad Ymarfer Plant (boed yn gryno neu’n estynedig);
- Adolygiad Lladdiad Domestig;
- Adolygiad Lladdiad Iechyd Meddwl;
- Adolygiad Lladdiad ag Arf Ymosodol24;
Nod yr ADUS yw:
- osgoi’r angen i deuluoedd gymryd rhan mewn cylch beichus a phoenus o roi gwybodaeth ac aros am ganlyniadau sawl adolygiad;
- sicrhau bod testun yr adolygiad a’u teuluoedd yn ganolog i’r broses;
- defnyddio’r wybodaeth a’r gwersi sy’n deillio o broses yr Adolygiad i greu newid cadarnhaol yn ymarferol er mwyn atal niwed yn y dyfodol;
- darparu cymorth cenedlaethol i’r Byrddau Diogelu sy’n cyflawni rôl gydgysylltu/ weithredol i oruchwylio’r broses o’r dechrau i’r diwedd drwy’r Hwb Cydgysylltu;
Gellir dod o hyd i’r ffurflen atgyfeirio Yma
NODER MAI DIM OND GWEITHWYR PROFESIYNOL Y GALL ATGYFEIRIADAU GAEL EU CYFLWYNO
Adolygiadau Ymarfer Plant
Mae’r meini prawf ar gyfer adolygiadau ymarfer plant/oedolion wedi’u nodi yn Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015. Daeth y trefniadau i rym ar 6 Ebrill 2016. Diben adolygiad yw nodi’r hyn a ddysgir ar gyfer ymarfer yn y dyfodol. Mae’n cynnwys ymarferwyr, rheolwyr ac uwch swyddogion wrth archwilio manylion a chyd-destun gwaith asiantaethau gyda phlentyn a theulu.
Mae gwybodaeth am Adolygiad Ymarfer Plant Gwynedd ar gael: YMA
Adolygiadau Ymarfer Oedolion
Cynhelir Adolygiadau Ymarfer Diogelu Oedolion ar ran Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru. Maent yn ffordd i bob asiantaeth bartner nodi’r gwersi y gellir eu dysgu o achosion Diogelu Oedolion arbennig o gymhleth neu anodd ac i roi newidiadau ar waith i wella gwasanaethau yng ngoleuni’r gwersi hyn.
Dylid cyflwyno ffurflenni drwy Uned Fusnes y Bwrdd Diogelu: Regionalsafeguarding@denbighshire.gov.uk
Adroddiadau, Canllawiau, Protocolau a gwybodaeth arall
GRŴP ADOLYGU YMARFER ACHOS OEDOLION / PLANT SUSR CYLCH GORCHWYL
Bydd gan Fyrddau Diogelu Rhanbarthol gyfrifoldebau ychwanegol bellach dros annog pob Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (SUSR) a fydd yn disodli Adolygiadau Ymarfer Plant ac Oedolion.
Cynulleidfa: Children, Adults
Dyddiad ychwanegu: 09/03/26
BDOGC 2024 2 AYO
Cafodd adolygiad cryno ei gomisiynu gan Fwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru ar argymhelliad yr Is-grŵp Adolygiad Ymarfer Oedolion yn unol â’r Canllawiau ar gyfer Adolygiadau Ymarfer Oedolion.
Cynulleidfa: Adults
Dyddiad ychwanegu: 19/02/26
BDOGC 2024 1 Adolygiad o Ymarfer Oedolion
Comisiynwyd Adolygiad Ymarfer Oedolion Estynedig gan Fwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru ar
30/04/2024.
Cynulleidfa: Adults
Dyddiad ychwanegu: 12/02/26
Proses Gwynion Adolygiad Diogelu Unedig Sengl
Mae canllawiau statudol Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn mynnu bod gan bob Bwrdd Diogelu broses ar gyfer rheoli cwynion ynghylch Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl ac Adolygiadau Ymarfer Oedolion a Phlant, er mwyn adlewyrchu natur amlasiantaethol yr Adolygiadau hynny.
Cynulleidfa: Children, Adults
Dyddiad ychwanegu: 29/08/25
Siart llif ymgysylltu ar gyfer Cadeiryddion / Adolygwyr
Mae’r Grŵp Cyfeirio Dioddefwyr a Theuluoedd wedi datblygu’r siart llif canlynol at ddibenion ymgysylltu â Thestun yr Adolygiad/Teulu
Cynulleidfa: Children, Adults
Dyddiad ychwanegu: 21/11/24
Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (ADUS) – Hawdd ei Ddeall
Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (ADUS) – Hawdd ei Ddeall
Cynulleidfa: Children, Adults
Dyddiad ychwanegu: 23/10/24
Cynulleidfa: Children, Adults
Dyddiad ychwanegu: 23/10/24
Adolygiad Diogelu Unedig Sengl – Canllawiau Statudol
Datblygwyd y broses ADUS i gryfhau’r dirwedd adolygu yng Nghymru.
Cynulleidfa: Children, Adults
Dyddiad ychwanegu: 10/09/24
Protocol Adolygiad Ymarfer Oedolion
Datblygwyd y protocol hwn i egluro trefniadau Adolygiadau Ymarfer Oedolion ardal Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru.
Cynulleidfa: Adults
Dyddiad ychwanegu: 05/12/19
AYP/AYO Digwiddiadau Dysgu
Child/Adult Practice Reviews – What is a Practitioner Learning Event?Adolygiadau Ymarfer Plant/Oedolion – Beth yw Digwyddiad Dysgu i Ymarferwyr?
Cynulleidfa: Children, Adults
Dyddiad ychwanegu: 05/12/19



