Agwedd allweddol ar weithredu’r broses newydd ar gyfer yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (SUSR) newydd oedd ein comisiynu i ddatblygu Storfa Diogelu Cymru (WSR), gan ddefnyddio arbenigedd troseddegwyr, arbenigwyr pwnc a gwyddonwyr cyfrifiaduron sy’n defnyddio technegau cloddio testun a dysgu peiriannol.



