Cam-drin rhywiol rhwng brodyr a chwiorydd: Trosolwg o Wybodaeth ac Ymarfer

Hannah Cassidy

Yn cyfuno trosolwg o’r ymchwil diweddaraf a gwybodaeth am ymarfer, paratowyd yr adroddiad hwn gan Stuart Allardyce, un o gyfarwyddwr Sefydliad Lucy Faithfull, a Dr Peter Yates, darlithydd ac Arweinydd Rhaglen ym maes Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Napier Caeredin. Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar gefnogi ymarfer, gan ddarparu adnoddau hygyrch i helpu gweithwyr proffesiynol ddeall y materion a’r heriau y mae cam-drin rhywiol rhwng brodyr a chwiorydd yn peri.

Er y credir mai camdriniaeth rywiol rhwng brodyr a chwiorydd sy’n blant yw’r ffurf fwyaf cyffredinol o gam-drin rhywiol o fewn y teulu, a’i fod yn fater y bydd y rhan fwyaf o ymarferwyr yn dod ar ei draws rywbryd yn ystod eu gyrfa, mae deall a delio â cham-drin rhywiol rhwng brodyr a chwiorydd yn gallu bod yn heriol iawn i weithwyr proffesiynol a theuluoedd.

Mae’r adroddiad yn rhoi hyder bod, drwy waith gweithwyr proffesiynol, y nod therapiwtig o iachau teuluoedd a symud ymlaen yn bosibl. Drwy ddulliau mwy cyfannol, gall teuluoedd ddechrau deall trawma cam-drin rhywiol rhwng brodyr a chwiorydd er mwyn symud ymlaen mewn ffordd iach ac, er bod effaith bosibl camdriniaeth o’r fath yn gallu bod yn effaith drwy oes, gyda’r mathau cywir o gymorth gall digwyddiad catastroffig o’r fath gynnig twf cadarnhaol a newid i’r teulu.

http://www.csacentre.org.uk/knowledge-in-practice/practice-improvement/sibling-sexual-abuse/

Leave a Comment