Beth yw Cam-fanteisio’n Rhywiol ar Blant?
Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant yw gorfodi neu ddylanwadu ar blant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol. Mae’n fath o gam-drin rhywiol sy’n cynnwys rhoi rhywbeth yn gyfnewid, fel arian, ffôn symudol neu eitemau eraill, cyffuriau, alcohol, lle i aros, ‘amddiffyniad’ neu serch. Mae natur ddiamddiffyn y bobl ifanc hyn a phroses ymbaratoi’r troseddwyr yn golygu eu bod yn ddi-rym i adnabod natur ecsbloetiol y berthynas ac felly ddim yn gallu cydsynio ar sail gwybodaeth.
Protocol Cymru Gyfan, Diogelu a Hyrwyddo Lles Pobl Ifanc sydd mewn perygl o gael eu Cam-drin drwy Gamfanteisio Rhywiol.
Beth i chwilio amdano:
- Person ifanc yn aros allan yn hwyr
- Pobl ifanc hŷn / oedolion nad ydych chi’n eu hadnabod yn mynd i mewn i’r tŷ
- Defnydd o ffonau symudol / rhyngrwyd sy’n peri pryder
- Mynegiant o anobaith (hunan-niweidio, gorddos, ymddygiad heriol, anhwylder bwyta, ymddygiad ymosodol)
- Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol / beichiogrwydd / terfynu beichiogrwydd
- Camddefnyddio cyffuriau / alcohol
- Llety anaddas / amhriodol
- Person ifanc wedi ei ynysu o’i gyfoedion
- Diffyg perthynas gadarnhaol gydag oedolyn amddiffynnol
- Wedi ei wahardd / ddim yn ymgysylltu ag addysg, gwaith na hyfforddiant
- Byw’n annibynnol a ddim yn ymateb i ymgais i gysylltu
Dangosyddion Risg Sylweddol:
- Mynd ar goll dros nos neu am gyfnod hirach
- Cariad hŷn / perthynas ag oedolyn gormesol
- Camdriniaeth gorfforol / emosiynol gan y person hwnnw
- Mynd i mewn / allan o gerbydau gydag oedolion nad ydych chi’n eu hadnabod
- Arian, dillad neu eitemau eraill nad oes modd eu hegluro
- Ymweld ag ardaloedd sy’n hysbys am gamfanteisio
- Anaf corfforol heb reswm credadwy
- Datgelu ymosodiad corfforol / rhywiol
- Cyfoedion sy’n gysylltiedig â chamfanteisio’n rhywiol ar blant neu ‘glipio’
Beth i’w wneud os oes gennych chi bryderon:
Nodwch fanylion unrhyw berson sy’n destun pryder, rhifau cofrestru ceir a phatrymau. Cysylltwch â’r Heddlu a’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Arweinwyr Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant yr Awdurdod Lleol:
Sharon Carter Williams, Cyngor Gwynedd
Ian Turner, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Jamie Pope, Cyngor Sir Ddinbych
Llŷr ap Rhisiart, Cyngor Sir Ynys Môn
Francine Salem, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Ray Dickson, Cyngor Sir y Fflint
Am fwy o wybodaeth a chyngor ewch i:
Heddlu Gogledd Cymru: https://www.north-wales.police.uk/advice-and-support/stay-safe
Canolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein: http://www.ceop.police.uk
NSPCC: https://www.nspcc.org.uk/preventing-abuse/child-abuse-and-neglect/child-sexual-exploitation/
Protocol Cymru Gyfan CSE:CSE-Protocol-Review-FINAL-REVISION-October-2013-2_cym1
Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English