COVID-19

Rydym ni’n gwybod y gallai’r perygl i nifer o blant ac oedolion diamddiffyn gynyddu o ganlyniad i’r newidiadau o ran sut rydym yn byw o ddydd i ddydd ar hyn o bryd. Rydym yn rhagweld cynnydd o ran materion cam-drin domestig ac iechyd meddwl wrth i unigolion/ teuluoedd dreulio rhagor o amser yn ynysu a gallant fod yn pryderu am y sefyllfa sy’n datblygu; bydd rhagor o alw ar deuluoedd/ gofalwyr sy’n profi tlodi eisoes, ac mae hyn i gyd ar adeg pan fydd nifer o blant/ oedolion allan o olwg gwasanaethau allweddol, fel ysgolion. O ganlyniad, mae’n glir bod angen i bob gwasanaeth wneud mwy gyda llai er mwyn i ni barhau i ddiwallu anghenion plant/ oedolion sydd mewn perygl, gyda’n gilydd.

Bydd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn diweddaru’r dudalen we hon bob wythnos i sicrhau y bydd unrhyw ganllawiau arfer lleol / cenedlaethol ar gael i bob swyddog ar draws y rhanbarth i gael mynediad iddynt i gefnogi eu harfer yng Ngogledd Cymru.

Canllawiau Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru:

Proses 7 Cam Diogelu  Covid – 19

Proses 7 Cam Diogelu Covid – 19

Dogfennau Cenedleathol:

Mae gennym oll ran i’w chwarae mewn amddiffyn pobl hŷn rhag camdriniaeth

Er gwaethaf aflonyddwch Covid-19, mae timau diogelu a gwasanaethau cefnogi yn gweithio o hyd, yn ymchwilio i bryderon a sicrhau fod pobl yn cael yr help maent ei angen fel eu bod yn ddiogel. Gallwn oll chwarae rhan mewn amddiffyn pobl hŷn.  #GofynHelpCadw’nDdiogel #DydychChiDdimArEichPenEichHun.

Mae gennym oll ran i’w chwarae mewn amddiffyn pobl hŷn rhag camdriniaeth

Rydym yn gwybod y gallai gofyn am help fod yn hynod anodd os ydych yn dioddef camdriniaeth, ond mae’n bwysig eich bod yn ei gael os ydych ei angen. I gael cyngor a chefnogaeth, cysylltwch â:

@HourglassCymru 0808 808 8141 – https://www.wearehourglass.cymru/wales

@LiveFearFree 0808 8010 800 – https://gov.wales/live-fear-free/contact-live-fear-free

Mae gennym oll ran i’w chwarae mewn amddiffyn pobl hŷn rhag camdriniaeth

Adnoddau Aros Gartef ar gyfer plant, teuluoedd, oedolion a gweithwyr allweddol:

Cliciwch yma:

Gwybodaeth Arrall:

Sgamiau

Taflen Wybodaeth i Blant – GIG