Mae’r cofair AWARE

Hannah Cassidy

Information and latest news

Mae’r cofair AWARE yn helpu i sicrhau fod “llais y plentyn” yn cael ei glywed a’i ystyried yn gyson mewn sefyllfaoedd yn ymwneud ag amddiffyn plant. Mae’n darparu fframwaith ar gyfer gweithwyr proffesiynol i wneud asesiadau risg mwy cywir a dealltwriaeth well o anghenion y plentyn, gan gyfrannu tuag at ganlyniadau amddiffyn plant mwy effeithiol.  Er bod y cofair wedi’i ddatblygu i gynorthwyo swyddogion yr heddlu i gasglu tystiolaeth am blant yn rhan o’u rôl i asesu ac adrodd, mae’r cofair yn ased gwerthfawr a all/ddylai gael ei ystyried gan holl asiantaethau.  Mae dysgeidiaeth o AYP yn awgrymu y gallai defnyddio’r cofair amlygu bod angen ystyried ble’r oedd y plentyn/plant a phrofiad bywyd beunyddiol y plentyn wrth weld cam-drin domestig ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae gwrando ar lais y plentyn yn hanfodol ar gyfer ymarfer diogelu effeithiol. Gall lais y plentyn gynnwys yr hyn sy’n cael ei ddweud a’r hyn nad yw’n cael ei dweud, dangosyddion llafar a dilafar.

Am ragor o wybodaeth, gweler yr atodiad:

Gadael sylw