Mae’r tîm Addysg Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar fygythiad grwpiau niwed ar-lein neu grwpiau cymunedau. Mae’r canllawiau yn canolbwyntio ar grwpiau cysylltiedig â niwed sy’n cymryd rhan mewn troseddau gorelwa a cham-drin plant yn rhywiol a gellir eu defnyddio er mwyn helpu gyda: meithrin dealltwriaeth o grwpiau niwed ar-lein a’r risgiau y maent yn eu peri i blant a phobl ifanc; nodi arwyddion posibl y gall plentyn neu berson ifanc fod mewn perygl; deall sut i ymateb i bryderon a chefnogi diogelu; a chryfhau camau ataliol.


