Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant

Hannah Cassidy

Updated on:

Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant

Negeseuon Allweddol

Ar 18 Mawrth 2018 mae Rhwydwaith NWG yn galw ar bawb i uno yn erbyn Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant

Mae camfanteisio’n rhywiol ar blant yn fath o gamdriniaeth rywiol sy’n cynnwys dylanwadu ar ac/neu orfodi pobl ifanc dan 18 oed i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol.

FFAITH: Mae rhan gan bawb i’w chwarae wrth godi ymwybyddiaeth am Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant.

FFAITH: Mae diogelu plant yn fater i bawb.

FFAITH: Gall unrhyw blentyn ddioddef camfanteisio rhywiol beth bynnag fo’u diwylliant, ethnigrwydd, crefydd, boed yn fachgen neu’n ferch o unrhyw gefndir.

Nod Diwrnod Cenedlaethol Codi Ymwybyddiaeth am Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant yw amlygu’r materion sy’n ymwneud â cham-fanteisio’n rhywiol ar blant; gan annog pawb i FEDDWL, SYLWI A SIARAD AM gamdriniaeth a pheidio â goddef unrhyw oedolyn sy’n datblygu perthnasau amhriodol gyda phlant a phlant sy’n ffurfio perthnasau rhywiol amhriodol gyda’u cyfoedion.

Mae NWG wedi ymrwymo i ymladd yn erbyn cam-fanteisio’n rhywiol ar blant a chefnogi dioddefwyr a’u teuluoedd sy’n wynebu cam-fanteisio’n rhywiol ar blant ond ni allant lwyddo heb gefnogaeth pobl fel chi.

Gyda’n gilydd, gallwn weithio i hysbysu, addysgu ac atal y math hwn o gam-drin rhywiol ar blant yn y DU.

National CSE Awareness Day 2018 – Key Messages leaflet cym

Leave a Comment