Effaith COVID-19 ar brofiadau plant a phobl ifanc o drais a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod

Hannah Cassidy

Mae’n bleser gennym rannu ein hymchwil ddiweddaraf â chi, a gwblhawyd gydag arian gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n ystyried effaith COVID-19 ar brofiadau plant a phobl ifanc o drais a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

Byddwn yn cynnal gweminar a fydd yn trafod pwyntiau allweddol yr adroddiad, ac yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n bresennol ofyn cwestiynau. Cynhelir y weminar ar 28th Mehefin rhwng 12:00 – 13:00, a gallwch gofrestru isod.

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd iawn i lawer o bobl, ac mae’n amlwg bod cyfyngiadau COVID-19 wedi cael effaith andwyol ar blant a phobl ifanc.

Mae ein hymchwil yn dangos bod llawer o blant a phobl ifanc wedi wynebu mwy o risg o brofi trais a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, gan gynnwys cam-drin domestig, cam-drin corfforol, hunan-niwed, cam-drin a cham-fanteisio rhywiol, a thrais difrifol ymhlith pobl ifanc. Yn yr un modd, mae pobl a oedd yn dioddef profiadau niweidiol cyn y pandemig yn debygol o fod wedi eu dioddef yn waeth yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.

Yn bwysig, mae’r adroddiad yn cynnwys rhai ystyriaethau allweddol ar gyfer asiantaethau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc wrth i Gymru barhau i adfer yn sgil COVID-19. Ymhlith y rhain mae ymyrryd yn gynnar ac atal er mwyn helpu i ail-feithrin y cydberthnasau dibynadwy a oedd yn eisiau o bosibl yn ystod y pandemig, gwella cyfathrebu â phlant a phobl ifanc er mwyn eu helpu i ddeall a lleddfu pryderon, ofnau a rhwystredigaeth am y feirws, a chryfhau’r dull gweithredu amlasiantaethol er mwyn galluogi sefydliadau i nodi plant sy’n wynebu risg, gwella ymyriadau a mesurau diogelu, a mynd i’r afael ag unrhyw fylchau mewn gwybodaeth yn fwy effeithiol.

Mae gan bawb yr hawl i fod yn ddiogel, ac mae gwaith gwych yn cael ei wneud i sicrhau bod plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed yn cael eu diogelu rhag y bobl a’r profiadau a all beri niwed iddynt. Wrth i Gymru barhau i adfer, byddwn yn parhau i gydweithio â’n partneriaid i sicrhau na chaiff unrhyw blentyn na pherson ifanc ei adael ar ôl.

Mae croeso i chi gysylltu â ni os bydd unrhyw gwestiynau gennych: phw.violencepreventionunit@nhs.wales

https://indd.adobe.com/view/75418d97-7472-429f-8744-b737ea365d52

https://www.eventbrite.co.uk/e/webinar-the-impact-of-covid-19-on-children-and-young-people-tickets-157257420177

Leave a Comment