Yn dilyn cyhoeddi Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol (2026-2036), mae’r Ganolfan o Ragoriaeth ar gam-drin plant yn rhywiol bellach wedi cyhoeddi Fframwaith Hyfforddiant a Datblygu.
Mae’r fframwaith yn darparu strwythur o ran datblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder sydd ei angen i atal, adnabod ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol a bydd yn cefnogi’r gwaith o ymdrin ag anghenion hyfforddi ein gweithlu ar draws Cymru fel y blaenoriaethwyd yn y Strategaeth Cam-drin Plant yn Rhywiol.
Mae’r fframwaith wedi’i ddylunio i bawb sy’n gyfrifol am ddysgu a datblygu unrhyw un sy’n gweithio gyda neu sy’n dod i gysylltiad gyda phlant a theuluoedd, ac yn helpu i sicrhau bod dysgu yn gyson, yn flaengar ac yn briodol o ran yr hyn mae pobl angen ei wybod am gam-drin plant yn rhywiol.



