Gadewch i blant wybod eich bod chi’n gwrando – animeiddiad diogelu newydd NSPCC

Hannah Cassidy

NSPCC ni wedi creu animeiddiad sy’n amlinellu rhai o’r sgiliau rhyngbersonol allweddol y dylai oedolion eu defnyddio pan fydd plentyn yn datgelu achos o gam-drin a/neu esgeulustod, sy’n gallu helpu i ddangos yn glir eu bod yn gwrando ac yn trin yr hyn mae’r plentyn yn ei ddweud o ddifrif. Mae’r animeiddiad hwn yn ategu’r poster diogelu a’r papur briffio a lansiwyd gennym yn gynharach eleni. Mae’r tri adnodd hyn bellach ar gael yn Gymraeg a Saesneg yn http://www.nspcc.org.uk/listen.

Er bod pobl sy’n gweithio gyda phlant wedi hen arfer â’r sgiliau a amlinellir ar y poster ac yn yr animeiddiad, mae plant yn dweud wrthym nad yw oedolion o reidrwydd yn gwneud y pethau hyn. Ein bwriad oedd creu cyfres o adnoddau ymarferol a fyddai’n atgoffa gweithwyr proffesiynol o’r sgiliau hyn ac yn helpu i roi’r hyder a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i wrando’n well ar bobl ifanc a’u cefnogi.

Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech ein cefnogi ni unwaith eto drwy rannu’r ddolen i’r animeiddiad (a’r adnoddau eraill) drwy eich gwefan, e-gylchlythyrau a/neu sianeli cyfryngau cymdeithasol.  Fel y soniwyd y tro diwethaf, byddai’n wych pe baech yn annog oedolion i arddangos y poster mewn llefydd lle bydd oedolion yn ei weld yn rheolaidd (e.e. ystafell staff, toiledau, ystafelloedd newid, mewn lifftiau, y tu mewn i lyfr nodiadau neu mewn ystafelloedd storio/offer). Mae’n weledol ac yn gofiadwy ac mae wedi’i greu’n fwriadol er mwyn i bobl ifanc ei ddeall hefyd.

Leave a Comment