Datganiad i’r wasg Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru

Hannah Cassidy

Updated on:

Information and latest news

Mae Aelodau Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn dymuno cydnabod dewrder y bobl ifanc a roddodd dystiolaeth yn ystod yr achos llys hwn.

Rŵan bod y rheiny a oedd yn gyfrifol am y gamdriniaeth a achoswyd i’r bobl ifanc wedi mynd o flaen eu gwell, bydd y Bwrdd Diogelu yn parhau i gynnal yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl yn unol â’r canllawiau cenedlaethol.

Nid yw’r adolygiad hwn yn rhan o’r broses droseddol/ymchwilio, ei nod yw archwilio cyfranogiad asiantaethau gyda’r bobl ifanc dan sylw a nodi pa wersi a ellir eu dysgu ar gyfer y dyfodol.

Mae’r Bwrdd eisoes wedi penodi Cadeirydd Annibynnol ac Arolygydd Annibynnol o’r tu allan i ranbarth gogledd Cymru. Bydd yr asiantaethau sy’n rhan o’r Panel yn casglu gwybodaeth am eu cyswllt â’r bobl ifanc a’u teuluoedd er mwyn datblygu llinell amser o’r digwyddiadau arwyddocaol cyn y digwyddiad trasig.

Bydd y wybodaeth hon wedyn n cael ei chyflwyno i ddigwyddiad dysgu amlasiantaeth, sy’n cynnwys ymarferwyr a fu’n ymwneud yn uniongyrchol â’r plant er mwyn iddynt allu rhannu eu dealltwriaeth o’r hyn ddigwyddodd a nodi pwyntiau dysgu allweddol.

Lle bo’n briodol ac i gefnogi’r dysgu, bydd y Panel hefyd yn chwilio am gyfleoedd i ymgysylltu â’r bobl ifanc a effeithiwyd.

Ar ôl y digwyddiad dysgu, bydd arolygwyr annibynnol yr achos yn crynhoi ac yn dadansoddi’r holl wybodaeth a gasglwyd i gwblhau adroddiad, gan nodi’r hyn a ddysgwyd o’r achos ac argymhellion i wella arferion diogelu.

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol er mwyn iddynt graffu arno a’i gymeradwyo, cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i gael cymeradwyaeth derfynol. Mae’n hanfodol bwysig bod yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl yn cael ei gynnal yn drylwyr.

Fel arfer gall adolygiad o’r fath gymryd tua 12 mis i’w gwblhau; fodd bynnag bydd y terfynau amser yn dibynnu ar sawl ffactor fel cymhlethdod yr achos, maint y gwaith ymchwilio ac ymgysylltu â phartneriaid a’r angen i’r Panel ystyried yr holl dystiolaeth o’r amgylchiadau yn fanwl.

E-bost cyswllt: Reviews@denbighshire.gov.uk

Gadael sylw