Ymgyrch newydd i godi ymwybyddiaeth o gamddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial i addasu lluniau o blant.
Mae tîm Addysg Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, mewn partneriaeth â’r Internet Watch Foundation, wedi lansio ymgyrch newydd hollbwysig i godi ymwybyddiaeth ymysg rhieni a gofalwyr, a fydd yn para rhwng dydd Mercher 30 Mehefin a dydd Mawrth 11 Awst ar Facebook, Instagram ac YouTube.
Mae’r ymgyrch yn tynnu sylw at fygythiad i deuluoedd sy’n esblygu drwy’r amser: y ffordd y mae pobl yn camddefnyddio offer deallusrwydd artiffisial modern i droi lluniau cyffredin o blant yn ddelweddau cignoeth o gamdriniaeth.
Holl ddiben yr ymgyrch yw grymuso pobl yn rhagweithiol. Dymunwn alluogi mamau, tadau a gofalwyr i ddilyn camau syml ac ymarferol i ddiogelu eu preifatrwydd ac amddiffyn eu plant yn y byd digidol. Mae’r adnoddau sydd ynghlwm wrth yr ymgyrch yn sôn am ddewisiadau beunyddiol, hawdd eu rheoli ynglŷn â rhannu lluniau o’ch plant ar-lein, addasu gosodiadau preifatrwydd ar gyfryngau cymdeithasol a siarad am osod ffiniau pendant gyda theulu a ffrindiau ynghylch rhoi caniatâd i rannu lluniau. Gallwch weld yr adnoddau a fideos ynglŷn â’r ymgyrch yma.
Gobeithiwn ennyn sylw teuluoedd drwy ein hymrwymiad i gadw plant yn fwy diogel ar-lein, gan sicrhau fod y neges yn cyrraedd y bobl sydd fwyaf angen ei chlywed. I gynorthwyo â hynny, rydym wedi creu pecyn gwaith digidol i bartneriaid, i’w gwneud mor syml â phosib i chi a’ch tîm ledaenu’r neges.
Os yw eich sefydliad yn fodlon ein cefnogi a’n helpu i rannu’r adnoddau hyn, rhowch wybod i ni.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech
drafod yr ymgyrch ymhellach, cysylltwch â ni yn ceopeducation@nca.gov.uk


