Mae Ofcom wedi cyhoeddi tri adroddiad ymchwil newydd ar niwed ar-lein, fel rhan o’u cyfres ar ddiogelu plant ar-lein. Mae’r adroddiadau’n ymdrin â: deall llwybrau o ran cynnwys treisgar ar-lein ymysg plant; profiadau plant sy’n dod ar draws cynnwys ar-lein sy’n hyrwyddo anhwylder bwyta, hunan-niweidio a hunanladdiad; a nodweddion allweddol a phrofiadau o seiberfwlio ymysg plant yn y DU.