Ymchwiliad pandemig Coronafeirws Covid-19 y DU

Hannah Cassidy

INFORMATION ICON picture of structure

Mae tîm Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi cyhoeddi adroddiad yn edrych ar sut yr effeithiodd pandemig y coronafeirws ar blant a phobl ifanc. Clywodd yr Ymchwiliad gan 600 o blant a phobl ifanc rhwng 9 a 22 mlwydd oed am eu profiadau o fyw drwy’r pandemig. Mae’r canfyddiadau allweddol yn nodi’r canlynol: collwyd yr ysgol fel ffynhonnell gymorth a seibiant bosib; roedd tensiynau yn y cartref yn golygu nad oedd yn fan diogel na chefnogol i rai; roedd y plant a’r bobl ifanc a oedd yn cael cymorth gan y gwasanaethau gofal cymdeithasol i blant yn teimlo bod ansawdd a phrydlondeb y cymorth wedi newid; teimladau o ofn a gorbryder ynglŷn â’r risg o ddal Covid-19, yn enwedig ymysg plant ag anableddau corfforol a’r rheiny â chyflyrau iechyd.

Gadael sylw