canllawiau ar gyfer lleoliadau addysgol a sefydiladau sy’n gweithio gyda phlant a phobi ifanc

Hannah Cassidy

Information and latest news

Paratowyd y canllawiau hyn gan UK Online Harms Early Warning Working Group. Mae’r canllawiau yn rhannu arferion gorau ac ystyriaethau ar gyfer lleoliadau addysg a sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar ddefnyddio lluniau a fideos o blant a phobl ifanc ar draws eu platfformau ar-lein, er mwyn denu sylw i’r risg y bydd eu delweddau’n cael eu haddasu gan AI.

Mae’r ddogfen hon yn edrych ar sut i fynd ati yn gyfrifol i reoli, rhannu a diogelu ffotograffau a fideos, yn enwedig y rhai sy’n cynnwys plant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys delweddau a ddefnyddir ar draws gwefannau lleoliad addysgol, platfformau eu cyfryngau cymdeithasol a chyfryngau digidol eraill. Wrth feddwl am y ffordd orau o ddiogelu delweddau plant a phobl ifanc ar-lein, efallai y bydd ysgolion a lleoliadau addysg yn dymuno meddwl am arferion diogelwch delweddau fel:

  • Sicrhau nad yw delweddau’n cynnwys gwybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod yr unigolyn ac i niweidio neu fanteisio ar unigolyn trwy gyfrwng blacmel (e.e. enwau llawn neu wynebau).
  • Defnyddio delweddau y mae’n anoddach eu camddefnyddio neu eu cam-drafod, gallai hyn fod trwy ddim ond rhannu ffotograffau a gymerwyd o bell, delweddau aneglur neu ddelweddau a gymerwyd o dros yr ysgwydd.
  • Defnyddio gosodiadau preifatrwydd i helpu i gyfyngu ar bwy sy’n gallu gweld a rhannu cynnwys (gellir gwneud hyn ar y cyfryngau cymdeithasol neu unrhyw fan arall lle mae delweddau’n cael eu storio neu eu rhannu).
  • Dileu metadata (e.e. data EXIF) o’r delweddau sy’n gallu arwain at ddatgelu y lleoliad, manylion am y ddyfais neu stampiau amser. Gall data o’r fath ddatgelu, yn anfwriadol, amserlenni neu arferion, er enghraifft sesiynau hyfforddiant rheolaidd
  • Gwneud yn siŵr bod arferion diogelwch sy’n gysylltied

Gadael sylw