Adolygiad Ymarfer Plant Gwynedd

Ar ôl i’r broses Cyfiawnder Troseddol ddod i ben ar gyfer troseddau Neil Foden, Cyn Bennaeth Ysgol Friars, fe gomisiynwyd Adolygiad Ymarfer plant. Nod yr Adolygiad Ymarfer Plant ydi nodi unrhyw gamau y gellir eu cymryd gan bartneriaid y Bwrdd Diogelu (Heddlu, Awdurdod Lleol, Iechyd neu gyrff eraill) i gyflawni gwelliannau mewn ymarfer Amddiffyn Plant aml asiantaeth. Fe ddechreuodd y broses Adolygiad Ymarfer Plant ym mis Awst 2024.

Mae dysgu o’r adolygiad yma’n ymwneud ag:

  • Ymddygiad y troseddwr a’r diwylliant yn yr ysgol a alluogodd y troseddu yma.
  • Dull o arwain ac ymddygiad proffesiynol y troseddwr a’i reolaeth a’i arweinyddiaeth yn yr ysgolion lle bu’n gweithio.
  • Trefniadau llywodraethu.
  • Datguddiad a gwneud penderfyniadau
  • Effaith camdriniaeth rywiol ar blant a chymuned ehangach yr ysgol.
  • Gwella systemau a threfniadau i amddiffyn plant rhag camdriniaeth rywiol a chamfanteisio arnynt yn rhywiol.

Y Tîm Adolygu

Mae tîm yr Adolygiad Ymarfer Plant yn cynnwys Jan Pickles OBE yn Gadeirydd a dau adolygwr. Mae Jan yn adolygwr profiadol sydd wedi cwblhau adolygiadau tebyg lle cafodd plant a phobl ifanc eu cam-drin yn rhywiol gan bobl mewn swyddi gydag ymddiriedaeth. Mae Jan yn cydweithio â dau adolygwr sydd â phrofiad sylweddol ym maes addysg ac amddiffyn plant. Mae’r Tîm Adolygu yn annibynnol ac nid oes ganddynt gysylltiad lleol proffesiynol na phersonol ac nid ydynt wedi gweithio yn y gorffennol i un o’r asiantaethau dan sylw.

Sut i gysylltu â’r Tîm Adolygu

Yng nghamau cychwynnol yr Adolygiad Ymarfer Plant, rydym wedi bod yn casglu gwybodaeth o sawl ffynhonnell, yn treulio amser yn yr ysgol ac yn cyfweld â’r rhai a fu’n gweithio gyda Neil Foden.

Fe fyddem yn croesawu eich cyfraniad os gawsoch chi neu aelodau’ch teulu eich effeithio gan weithredoedd Neil Foden.

Gan fod gennym ni siaradwr Cymraeg rhugl ar y tîm, mae croeso i chi gysylltu â ni yn eich dewis iaith. Os ydych chi’n teimlo y gallech chi gyfrannu at yr Adolygiad Ymarfer Plant neu os oes gennych chi wybodaeth i’w rhannu, e-bostiwch y tîm adolygu – reviews@denbighshire.gov.uk

Fe hoffem roi sicrwydd i chi y bydd eich gwybodaeth yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol. Yr unig adeg y byddwn yn torri cyfrinachedd ydi pan fyddwn ni’n credu bod plentyn neu oedolyn sydd ag anghenion gofal a chymorth mewn perygl o niwed.

Ni fyddwch yn cael eich enwi yn yr adolygiad, mae hyn er mwyn sicrhau y gall pawb siarad yn gwbl agored.

Diweddariadau Presennol

Tachwedd 2025

Heddiw, mae’r Bwrdd wedi cyhoeddi’r adroddiad yma, o’r enw ‘Cyfiawnder trwy ein Dewrder’.
Dyma’r Adolygiad Ymarfer Plant sy’n ymateb i droseddu rhywiol Neil Foden yn Ysgol Friars yng Ngwynedd.
Dewiswyd enw’r adroddiad gan un o’r bobl ifanc a gymerodd ran yn yr adolygiad, ac roedd hi’n bwysig bod dewrder y bobl ifanc hyn yn cael ei gydnabod a’i roi wrth wraidd yr adolygiad.

Rydym yn ymddiheuro unwaith eto am yr oedi cyn cyhoeddi’r adroddiad

Gweler isod am y dogfennau canlynol a chyfweliadau recordiwyd ymlaen llaw

  • Adroddiad llawn yr Adolygiad Ymarfer Plant
  • Fersiwn o’r adroddiad sy’n addas i blant
  • Cyfweliad wedi’i recordio ymlaen llaw gan Gyd-gadeirydd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru a Chadeirydd yr Adolygiad
  • Datganiadau i’r wasg gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru/ Cadeirydd yr Adolygiad / Heddlu Gogledd Cymru / Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr/Cyngor Gwynedd

Cyfiawnder trwy ein Dewrder AYP_.pdf

Fersiwn o’r adroddiad sy’n addas i blant-Cy.pdf

Press-Statements cy-1.pdf

I Blant / neu Oedolion yr effeithir arnynt gan gynnwys yr adroddiad, mae’r llinellau cymorth canlynol ar gael.

MAE’R LLINELLAU CYMORTH CANLYNOL AR GAEL I BLANT NEU OEDOLION SYDD WEDI CAEL EU HEFFEITHIO GAN GYNNWYS YR ADRODDIAD:

PLANT:

Mae swyddfa Comisiynydd Plant Cymru yma i hyrwyddo a diogelu hawliau a lles pob plentyn sydd fel arfer yn byw yng Nghymru. Mae’r Tîm Cyngor a Chymorth ar Hawliau Plant yn cynnig llinell gymorth am ddim a chyfrinachol sydd yno i gynghori a chynorthwyo plant a phobl ifanc neu’r rhai sy’n gofalu amdanynt os ydynt yn teimlo bod plentyn wedi cael ei drin yn annheg.

Ffôn: 0808 801 1000
E-bost advice@childcomwales.org.uk

ChildLine
ChildLine: Gwasanaeth cwnsela am ddim i blant a phobl ifanc, sy’n darparu cymorth ar gyfer ystod eang o faterion, gan gynnwys iechyd meddwl a diogelwch ar-lein.
Mae Childline ar agor 24 awr y dydd a 7 diwrnod yr wythnos, felly gall plant siarad â nhw unrhyw bryd.
Mae cwnselwyr yma i wrando a’ch cefnogi gydag unrhyw beth yr hoffech siarad amdano.

Gallwch ein ffonio am ddim ar 0800 1111 neu siarad ar-lein gan ddefnyddio’r sgyrsiau 1-2-1.

Meic
Meic yw’r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. O ddarganfod beth sy’n digwydd yn eich ardal leol i helpu i ddelio â sefyllfa anodd,
https://www.meiccymru.org/

Ffôn 08088023456

OEDOLION

Llinell gymorth Mind
Ffoniwch llinell gymorth Mind ar 0300 102 1234.
Mae hwn yn lle diogel i chi siarad am eich iechyd meddwl. Mae cynghorwyr wedi’u hyfforddi i wrando arnoch chi a’ch helpu i ddod o hyd i gefnogaeth arbenigol os oes ei hangen arnoch chi.

Y Samariaid
Gallwch gysylltu â’r Samariaid 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn:
Ffoniwch 116 123 (am ddim o unrhyw ffôn)
Ffoniwch Linell Iaith Gymraeg y Samariaid ar 0808 164 0123 (7pm–11pm bob dydd)
E-bostiwch jo@samaritans.org (gall ymatebion e-bost gymryd sawl diwrnod)

SANEline
Os ydych chi’n profi problem iechyd meddwl neu’n cefnogi rhywun arall, gallwch ffonio SANEline ar 0300 304 7000 (4.30pm–10pm bob dydd).

—————————————————————————————————

Diweddariad mis Hydref

Ar ran Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru, rydym yn eich hysbysu y bydd adroddiad yr Adolygiad Ymarfer Plant yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth 4 Tachwedd. Bydd yr adroddiad ar gael ar wefan Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru https://www.bwrdddiogelugogleddcymru.cymru/adolygiad-ymarfer-plant-gwynedd/ o 3pm ar y dyddiad hwnnw.

Dymunwn ymddiheuro’n ddiffuant eto am orfod gohirio cyhoeddi’r adroddiad a’r effaith a gafodd hyn ar ddioddefwyr a theuluoedd.

—————————————————————————————————

Gyda gofid bu rhaid i Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru wneud y penderfyniad anodd i ohirio cyhoeddi’r Adolygiad Ymarfer Plant ‘Cyfiawnder trwy ein Dewrder’ er mwyn ystyried ei rwymedigaethau cyfreithiol a rhannu gwybodaeth. Rydym yn sylweddoli bod hyn yn siom enfawr i bawb dan sylw, yn enwedig y merched a’r plant dewr sydd wrth wraidd yr adolygiad hwn. Byddwn yn ymdrechu i ddarparu amserlen ddiwygiedig cyn gynted ag y bo modd. Mae’r rhai sy’n arwain yr adolygiad yn parhau â’u cyfrifoldebau o ganolbwyntio ar les dioddefwyr yn ystod yr amser anodd hwn, fel sydd wedi bod yn digwydd drwy gydol cyfnod yr adolygiad.

Medi 2025

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru wedi penderfynu gohirio cyhoeddi Adolygiad Ymarfer Plant Gwynedd y mis hwn wrth gan ei fod yn ystyried ei rwymedigaethau cyfreithiol a rhannu gwybodaeth ymhellach.

Ebrill 2025

Mae Adolygiad Ymarfer Plant Gwynedd dan arweiniad Jan Pickles OBE yn parhau i wneud cynnydd o ran ffurfioli’r adroddiad terfynol cyn ei gyflwyno i Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru. Bydd yr adroddiad drafft yn cael ei gyflwyno i Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru cyn cael ei rannu â’r tîm Diogelu ac Eiriolaeth yn Llywodraeth Cymru. Yn ystod cyfnod yr haf, bydd y tîm adolygu yn gwneud trefniadau i gyfarfod â’r dioddefwyr a’u teuluoedd i drafod cynnwys yr adroddiad.

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru bellach yn disgwyl y bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi 2025.

Chwefror 2025

Mae Adolygiad Ymarfer Plant Gwynedd dan arweiniad Jan Pickles OBE yn parhau i gyfarfod gyda gweithwyr proffesiynol perthnasol ac aelodau o’r cyhoedd sydd â gwybodaeth y teimlant y bydd yn cefnogi’r broses adolygu.

Mae Adolygiad Ymarfer Plant Gwynedd dan arweiniad Jan Pickles OBE yn parhau i gwrdd â gweithwyr proffesiynol ac aelodau o’r cyhoedd sydd â gwybodaeth y teimlant fydd yn llywio’r broses adolygu.

Fel rhan o’r broses, byddem unwaith eto yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth sy’n berthnasol i’r adolygiad i gyfeirio at y cylch gorchwyl a chysylltu â’r tîm adolygu

Hoffem eich sicrhau y bydd eich gwybodaeth yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol. Yr unig achos lle gall fod achos o dorri’r ymddiried hwn yw os credwn fod plentyn neu oedolyn ag anghenion gofal a chymorth mewn perygl o niwed ar hyn o bryd.

Cysylltwch â’r tîm adolygu yn reviews@denbighshire.gov.uk.

Datganiad i’r Wasg Ionawr 2025

Adolygiad cylch gorchwyl ymarfer plant estynedig i’r cam-drin gan Neil Foden

Datganiad i’r Wasg Tachwedd 2024

Mae Adolygiad Ymarfer Plant Gwynedd dan arweiniad Jan Pickles OBE yn parhau i gyfarfod gyda gweithwyr proffesiynol perthnasol ac aelodau o’r cyhoedd sydd â gwybodaeth y teimlant y bydd yn cefnogi’r broses adolygu.

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn darparu diweddariadau rheolaidd i Uned Diogelu ac Eiriolaeth Llywodraeth Cymru ynglŷn â chynnydd yr adolygiad, er ar hyn o bryd nid oes disgwyl i adroddiad yr adolygiad gael ei gwblhau nes ddiwedd y gwanwyn 2025.

Mae’r Panel Adolygiad Ymarfer Plant yn parhau i adolygu’r cyfnod amser y mae’r adolygiad yn ymdrin ag o, yn ogystal â’r Cylch Gorchwyl er mwyn adlewyrchu unrhyw bryderon newydd y mae’r adolygiad wedi eu canfod.

Mae’r Panel Adolygu wedi canolbwyntio ar faterion allweddol megis ymddygiad y troseddwr ac ymddygiad proffesiynol. Mae trefniadau llywodraethu a rheoli datgeliadau hefyd dan ystyriaeth yn yr adolygiad.

Dywedodd Jenny Williams, yn ei rôl fel Cadeirydd Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru, “Bydd gwersi o’r adolygiad yn helpu i adnabod y gwelliannau sydd angen eu gwneud i systemau diogelu yn ogystal â threfniadau ar gyfer amddiffyn plant rhag cam-drin rhywiol a cham-fanteisio.”

Gellir anfon unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i’r adolygiad at Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru trwy’r cyfeiriad e-bost rhanbarthol reviews@denbighshire.gov.uk

Datganiad i’r Wasg Gorffennaf 2024

Yn dilyn canlyniad yr achos llys ar gyfer Neil Foden ar 15 Mai 2024, mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru wedi dechrau Adolygiad Ymarfer Plant.

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru wedi comisiynu Jan Pickles OBE i fod yn Gadeirydd Annibynnol yr Adolygiad Ymarfer Plant. Mae Jan Pickles yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig sydd wedi gweithio gyda’r Gwasanaeth Prawf, yr Heddlu, yr NSPCC ac mae wedi bod yn aelod o Fwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru.

Ochr yn ochr â Jan Pickles mae’r Bwrdd hefyd wedi comisiynu dau adolygydd annibynnol sydd o ardal tu hwnt i’r rhanbarth a sydd â phrofiad o ddiogelu mewn ysgolion.

Dylid cyfeirio unhrhyw ymholiadau gan y wasg i public.relations@denbighshire.gov.uk