Adolygiadau Ymarfer Plant

Mae’r meini prawf ar gyfer cynnal adolygiadau ymarfer plant wedi’u nodi yn Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015. Daeth y rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016.

Adolygiadau Cryno

Mae’n rhaid i fwrdd gynnal adolygiad ymarfer cryno dan yr achosion canlynol, pan fo, o fewn ardal y bwrdd, camdriniaeth neu esgeulustod plentyn yn hysbys neu pan fo amheuaeth o hynny, a bod y plentyn wedi;

  • marw;
  • cael anaf sy’n bygwth bywyd; neu
  • wedi dioddef nam difrifol a pharhaol i’w iechyd neu ddatblygiad; a
  • phan nad oedd y plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant nac yn blentyn a oedd wedi derbyn gofal yn y 6 mis blaenorol –
  • dyddiad y digwyddiad y cyfeirir ato uchod; neu’r
  • dyddiad y bu i’r awdurdod lleol neu’r partner perthnasol nodi bod plentyn wedi dioddef nam difrifol a pharhaol i’w iechyd neu ddatblygiad.

Diben yr adolygiad yw nodi unrhyw ddysgu ar gyfer y dyfodol. Mae’r adolygiad yn gofyn i ymarferwyr, rheolwyr ac uwch swyddogion archwilio manylion a chyd-destun gwaith asiantaethau gyda phlentyn a theulu.

Adolygiadau Estynedig

Mae’n rhaid i fwrdd gynnal adolygiad ymarfer plant estynedig dan yr achosion canlynol, pan fo, o fewn ardal y bwrdd, camdriniaeth neu esgeulustod plentyn yn hysbys neu pan fo amheuaeth o hynny, a bod y plentyn wedi;

  • marw;
  • cael anaf sy’n bygwth bywyd; neu
  • wedi dioddef nam difrifol a pharhaol i’w iechyd neu ddatblygiad; a
  • bod y plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant a/neu yn blentyn a oedd yn derbyn gofal (gan gynnwys unigolyn sydd yn 18 mlwydd oed, ond a oedd yn blentyn a oedd yn derbyn gofal) ar unrhyw ddyddiad yn ystod y 6 mis blaenorol –
  • dyddiad y digwyddiad y cyfeirir ato uchod; neu’r
  • dyddiad y bu i’r awdurdod lleol neu’r partner perthnasol nodi bod plentyn wedi dioddef nam difrifol a pharhaol i’w iechyd neu ddatblygiad.

Mae’r adolygiad yn dilyn yr un broses ac amserlen â’r adolygiad cryno, gan ymgysylltu’n uniongyrchol â phlant a theuluoedd, i’r graddau y maent yn dymuno ac sy’n briodol, ac yn cynnwys ymarferwyr, rheolwyr ac uwch swyddogion.

Fforymau Proffesiynol Amlasiantaethol

Mae Fforymau Proffesiynol Amlasiantaethol yn fecanwaith ar gyfer dysgu sefydliadol, gwella ansawdd y gwaith gyda theuluoedd a chryfhau gallu gwasanaethau i gadw plant yn ddiogel. Maent yn defnyddio gwybodaeth achosion, canfyddiadau archwiliadau amddiffyn plant, arolygiadau ac adolygiadau i ddatblygu a lledaenu dysgu i wella gwybodaeth leol ac ymarfer, ac i gyfrannu at flaenoriaethau archwilio a hyfforddiant y bwrdd yn y dyfodol.

Mae Fforymau Proffesiynol Amlasiantaethol wedi’u diffinio yn Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015 fel a ganlyn:

“fforymau, a drefnir ac a hwylusir gan Fwrdd ar gyfer ymarferwyr a rheolwyr o gyrff cynrychioladol, a chyrff neu bersonau eraill y bernir eu bod yn berthnasol gan Gadeirydd y Bwrdd, at y diben o ddysgu oddi wrth achosion, archwiliadau ac adolygiadau er mwyn gwella polisi ac ymarfer amddiffyn plant neu oedolion yn y dyfodol.”

Panel Adolygu Ymarfer Plant

  • Mae’r is-grŵp yn cyfarfod bob yn eil fis ac yn cael ei gadeirio gan Gadeirydd Annibynnol
  • Mae aelodau’r grŵp yn cynnwys uwch reolwyr asiantaethau amrywiol
  • Os yw asiantaeth yn cyflwyno atgyfeiriad i’r Panel Adolygu Ymarfer Plant, yna bydd angen llenwi’r ffurflen a’i chyflwyno i’r Uned Busnes Diogelu Rhanbarthol o leiaf 14 diwrnod cyn y cyfarfod

Adolygiadau Ymarfer Plant Canllawiau

Adolygiadau-Ymarfer-Plant-Protocol –

Case Referral Form to CPR bi lingual

Leave a Comment