Cyhoeddi Adolygiad Ymarfer Plant Sir y Fflint

Hoffai Aelodau Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru gynnig eu cydymdeimlad i deulu a ffrindiau Ethan yn dilyn ei farwolaeth drasig.

Mae’r rhai oedd yn gyfrifol am farwolaeth Ethan wedi eu dwyn o flaen eu gwell. Mae’r Bwrdd Diogelu wedi parhau gyda’r Adolygiad Ymarfer Plant, a gynhaliwyd yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 “Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl” Cyfrol 2.

Ar wahân i’r prosesau troseddol ac ymchwilio, bu i’r Adolygiad Ymarfer Plant edrych ar ymwneud asiantaethau gydag Ethan a’i deulu i adnabod gwersi ar gyfer y dyfodol.

Gweler isod ar gyfer y dogfennau canlynol a’r cyfweliadau wedi’u recordio ymlaen llaw:

Yn gyntaf, ar ran Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru a’n hasiantaethau partner, hoffwn estyn ein cydymdeimladau dwysaf i bawb a oedd yn adnabod ac yn caru Ethan. Mae colli plentyn yn drasiedi aruthrol, ac rydym yn parhau i feddwl am dad Ethan, ei frodyr a’i chwaer.

Heddiw, mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi canfyddiadau’r Adolygiad Ymarfer Plant Estynedig a gynhaliwyd o’r amgylchiadau trasig ynghylch marwolaeth Ethan Ives Griffiths.

Y Bwrdd Diogelu yw’r bartneriaeth amlasiantaeth sy’n gyfrifol am ddiogelu pobl o bob oed sy’n byw yng ngogledd Cymru. Y Bwrdd sy’n statudol gyfrifol am gynnal Adolygiadau Ymarfer Plant mewn achosion pan fo’n hysbys neu yr amheuir bod plentyn neu blant wedi cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Diben adolygiad yw nodi unrhyw beth y gellir ei ddysgu ar gyfer ymarfer yn y dyfodol.

Nid gweld bai yw pwrpas Adolygiad Ymarfer Plant. Cynhelir yr adolygiad i sicrhau fod partneriaid y Bwrdd yn archwilio eu gweithredoedd yn llym, nodi meysydd i’w gwella a sefydlu dysgu ar draws eu sefydliadau er mwyn i blant yn ein rhanbarth gael eu hamddiffyn yn well.

Nid yw’r adolygiad hwn yn hawdd ei ddarllen. Fel y gwyddom, mae nain a thaid Ethan wedi cael eu carcharu am ei lofruddio ac mae ei fam hefyd wedi cael ei dedfrydu am ei rôl yn ei farwolaeth.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r systemau a’r gwasanaethau a ddyluniwyd i ddiogelu plant yn gweithio. Ymddiheurwn yn ddiamod na wnaeth y systemau aml-asiantaeth hynny amddiffyn Ethan fel y dylent fod wedi ei wneud. Mae dyletswydd arnom i sicrhau bod y gwersi hanfodol o’r achos hwn yn arwain at newidiadau parhaol i’n hymarfer proffesiynol. Rydym wedi ymrwymo’n llawn i gydweithio’n fwy effeithiol i gadw plant yn ddiogel.

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn llwyr dderbyn canfyddiadau’r Adolygiad Ymarfer Plant sydd wedi cael ei gyhoeddi heddiw. Wrth i ni symud ymlaen, byddwn yn sicrhau bod y Bwrdd yn edrych yn fanwl ar y ddysg a ddaw o’r adroddiad hwn a byddwn yn cydweithio fel sefydliadau diogelu, i sicrhau bod y gwersi o’r adolygiad hwn yn cael eu rhannu, a bod sefydliadau’n dysgu ohonynt.

Nid ydym wedi aros tan y cyhoeddiad heddiw i weithredu. Fel yr amlygwyd yn yr adroddiad, mae asiantaethau Partner eisoes wedi gwneud newidiadau i’w harferion a’u trefniadau gweithlu.

Byddwn yn dwyn yr asiantaethau y cyfeirir atynt yn yr Adolygiad hwn i gyfrif a byddwn yn cyhoeddi Cynllun Gweithredu’r Bwrdd Diogelu yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Bydd y Bwrdd Diogelu hefyd yn darparu diweddariadau rheolaidd mewn perthynas â’n cynllun gweithredu i Lywodraeth Cymru.

Mae Adolygiad Ymarfer Plant Estynedig a gomisiynwyd gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru wedi canfod cyfleoedd a gollwyd i ddiogelu Ethan, a fu farw’n ddwy oed ar 16 Awst 2021.  Mae’r adolygiad yn nodi 16 o argymhellion i gryfhau arferion diogelu ar draws asiantaethau. 

Mae’n rhaid i Ethan barhau i fod yn ganolog i’r adolygiad hwn. Roedd yn blentyn ifanc a oedd angen diogelwch, gofal ac amddiffyniad. Rydym yn meddwl am bawb sydd wedi’u heffeithio gan ei farwolaeth, yn enwedig y plant hynny y mae eu bywydau wedi’u heffeithio gan y digwyddiadau hyn.

Mae’r adolygiad hwn yn nodi’r cyfleodd a gollwyd i ddeall y risgiau yr oedd yn eu hwynebu ac ymateb i bryderon. Ni chafodd ei lais ei glywed ac nid oedd gwybodaeth hanesyddol yn cael ei dwyn ynghyd yn gyson.

Mae’r adroddiad yn cofnodi’r newidiadau a wnaed ers marwolaeth Ethan, ac mae hefyd yn nodi’r gwaith pwysig sy’n dal angen ei wneud gan lawer o asiantaethau. Mae’n rhaid i bolisïau, hyfforddiant a systemau newydd gael eu trosi’n ymarfer cyson, megis gweld plant, deall eu bywydau bob dydd, gwrando ar bryderon, rhannu gwybodaeth a gweithredu’n brydlon pan fydd risgiau’n cynyddu.

Mae’r argymhellion yn darparu sail glir ar gyfer gweithredu pellach. Rhaid rhoi blaenoriaeth i sefydlu’r dysgu a dangos ei fod yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i ddiogelwch a lles plant.

Mae llofruddiaeth Ethan Ives-Griffiths yn parhau i fod yn drasiedi ofidus a thorcalonnus, nid yn unig i’r rhai a oedd yn ei garu ac yn ei adnabod orau, ond i gymuned ehangach Sir y Fflint hefyd.

Er bod pum mlynedd wedi mynd heibio ers marwolaeth Ethan, mae effaith ddwys yr hyn a ddigwyddodd yn parhau i aros gyda phob un ohonom. Nid ydym erioed wedi anghofio’r ffaith y bu farw plentyn ifanc mewn amgylchiadau lle gollwyd cyfleoedd i’w amddiffyn.

Mae marwolaeth Ethan wedi cael effaith barhaol ar y gweithwyr proffesiynol a’r timau sy’n gyfrifol am ddiogelu plant yn Sir y Fflint.  Rydym wedi parhau i fyfyrio ar ei fywyd, yr amgylchiadau o ran ei farwolaeth a’r gwersi y mae’n rhaid eu dysgu. Er na allwn newid yr hyn a ddigwyddodd, mae wedi cryfhau ein hymrwymiad cyfunol i wneud popeth sy’n bosibl i amddiffyn plant mwyaf diamddiffyn Sir y Fflint.

Mae’r Adolygiad Ymarfer Plant a gyhoeddwyd heddiw yn nodi sawl cyfle a gollwyd ar draws asiantaethau diogelu Gogledd Cymru. Mae ei ganfyddiadau hefyd yn tynnu sylw at feysydd lle y buasai cofnodi a rhannu gwybodaeth, chwilfrydedd proffesiynol ac ymyrraeth gydlynol wedi gallu bod yn gryfach ac y dylent wedi bod yn gryfach. Rydym yn derbyn y canfyddiadau a’r argymhellion yn llawn.

Fe wnaeth y digwyddiadau o amgylch marwolaeth Ethan ddigwydd yn ystod amgylchiadau digynsail y pandemig Covid-19, a achosodd heriau sylweddol i wasanaethau cyhoeddus ac effeithio ar sut yr oedd asiantaethau’n gallu ymgysylltu â phlant a theuluoedd diamddiffyn.

Hefyd datgelodd y dystiolaeth yn yr achos llys, ymdrechion parhaus y rhai a oedd yn gyfrifol am ei farwolaeth i gamarwain a chamgyfeirio awdurdodau, a darparu gwybodaeth ffug i weithwyr proffesiynol a oedd yn ceisio cefnogi ac amddiffyn Ethan.

Er mai’r unigolion a gafodd eu dyfarnu’n euog o’r drosedd sy’n gyfrifol am lofruddio Ethan, rydym ni, fel Cyngor yn ymddiheuro bod cyfleoedd i wneud mwy wedi cael eu colli ac na chafodd y lefel o amddiffyniad yr oedd yn ei haeddu. Rydym yn cydnabod yr oedd ein gwasanaethau’n rhan o’r ymateb diogelu ac yn derbyn ein cyfrifoldeb am y diffygion a nodwyd yn yr adolygiad. Mae’n wir ddrwg gennym am y meysydd lle wnaethom adael Ethan i lawr.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r gwersi a ddysgwyd o’r achos hwn wedi helpu i lywio arferion diogelu yn Sir y Fflint. Ochr yn ochr â’n partneriaid, rydym wedi cryfhau gweithdrefnau, gwella hyfforddiant, gwella gwaith aml-asiantaeth ac atgyfnerthu pwysigrwydd chwilfrydedd proffesiynol a chadw llais y plentyn wrth wraidd pob penderfyniad a wneir.

Fodd bynnag, ni all unrhyw welliant neu ddysg newid y canlyniad i Ethan neu leihau’r galar a brofir gan y rhai sy’n ei garu. Yn benodol, ymddiheurwn i dad Ethan, a byddwn yn gweithio gyda’r partneriaid i wella ein dull o ran ymgysylltu gyda thadau a gofalwyr gwrywaidd yn ein gwaith gyda theuluoedd. Rydym yn parhau i ymrwymo i weithredu argymhellion yr Adolygiad Ymarfer Plant a pharhau i drosi’r gwersi a ddysgwyd o’r drasiedi hon yn arferion diogelu gwell. Rydym yn benderfynol o weithio gyda phartneriaid a chymunedau lleol i adennill eu hymddiriedaeth a’u hyder yn ein gwasanaeth

Dywedodd y Prif Uwch-Arolygydd, Sian Beck, ar ran Heddlu Gogledd Cymru:    

“Yn gyntaf, hoffwn gydnabod cryfder a dewrder tad Ethan, a’i deulu, a wnaeth ymddwyn yn urddasol drwy gydol ymchwiliad cymhleth yr Heddlu a’r adolygiad hwn.

“Rwyf yn parhau i gydymdeimlo â nhw a meddwl amdanynt, a phawb a oedd yn adnabod ac yn caru Ethan.

“Rydym yn cydnabod yr oedd meysydd lle allai Heddlu Gogledd Cymru fod wedi gwella ei ymateb, ac rydym yn ymddiheuro i dad Ethan, a’i deulu, am hyn.

“Bachgen bach annwyl a oedd â’i fywyd cyfan o’i flaen, cyn iddo gael ei ddwyn yn greulon gan ei nain a’i daid, a’i fam a wnaeth ddim byd o gwbl i’w hatal. Prin y gellir credu fod Ethan wedi profi’r fath niwed a thrais gan y rheiny a oedd agosaf ato, a’r rheiny a oedd fod i’w garu a’i amddiffyn.

“Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cydweithredu’n llawn â’r adolygiad a gomisiynwyd gan Fwrdd Diogelu Heddlu Gogledd Cymru, ac rydym yn diolch i’r tîm adolygu am eu hymchwiliad trylwyr.

“Rydym yn cefnogi ei gyhoeddiad heddiw ac rydym yn llwyr gefnogi’r canfyddiadau, sy’n nodi dysg ac argymhellion ar gyfer gwella ar draws yr holl asiantaethau sy’n gysylltiedig â diogelu plant, yn cynnwys Heddlu Gogledd Cymru.

“Byddwn yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid i sicrhau bod dysgu yn arwain at welliannau ystyrlon o ran sut y caiff pryderon eu nodi, sut y caiff gwybodaeth ei rhannu, a sut y caiff risgiau i blant eu hasesu a’u trin.

“Yn dilyn marwolaeth Ethan, rydym wedi cyflwyno rhaglenni hyfforddi i wella chwilfrydedd proffesiynol a rhannu gwybodaeth gydag asiantaethau partner, sy’n cynnwys ‘llais y plentyn’ yn benodol, sy’n gweld y byd drwy lygaid y plentyn ac yn gwneud yn siŵr bod eu profiadau, teimladau, dymuniadau ac anghenion yn cael eu clywed a’u gweithredu arnynt.

“Rydym wedi buddsoddi mewn hyfforddiant pellach oruchwylwyr i gryfhau ein ffocws ar fynd i’r afael â throseddwyr cam-drin domestig drwy erlyniadau ar sail tystiolaeth a defnyddio gorchmynion sifil.

“Mae’r Heddlu hefyd wedi bod yn cymryd rhan yn y cynllun peilot cenedlaethol ar Orchmynion Atal Cam-drin Domestig ers mis Mai 2025 ac mae yn awr yn cefnogi cyflwyno’r rhaglen yn ehangach.

“Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod yr ystod o argymhellion yn cael eu rhoi ar waith yn lawn i sicrhau na fydd marwolaeth drasig Ethan yn ofer.”

Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Hoffem estyn ein cydymdeimladau dwysaf â’r teulu ac rydym yn croesawu canfyddiadau ac argymhelliad yr adolygiad ar gyfer y Bwrdd Iechyd.

“Rydym wedi adolygu a chryfhau ein gweithdrefn ‘Ni Ddaethpwyd â’r Unigolyn’ er mwyn helpu staff i adnabod ac ymateb yn well i bryderon diogelu posibl pan maent yn profi anhawster wrth geisio ymgysylltu â theuluoedd neu pan nad ydynt yn gallu cael mynediad atynt yn ystod ymweliadau wedi’u trefnu neu ymweliadau heb eu trefnu ymlaen llaw. Mae hyn yn cynnwys canllawiau cliriach ar pryd a sut y dylid uwchgyfeirio pryderon, a’r camau gweithredu y disgwylir iddynt eu cymryd yn amserol pan fo pryderon am les plentyn.

“Rydym yn cydnabod ymrwymiad ein staff a geisiodd gefnogi’r teulu ac rydym yn parhau i ymrwymo i weithio’n agos gydag asiantaethau partner i ddysgu o’r adolygiad hwn.”

Meddai’r Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol Plant Cyngor Wrecsam:  “Hoffwn ddweud ein bod yn meddwl am Ethan a phawb a effeithiwyd gan y drasiedi hon, yn cynnwys y staff a fu’n gweithio ar yr achos.

 “Fel rhan o drefniant partneriaeth hirdymor gyda Chyngor Sir y Fflint, darparodd Tîm Dyletswydd Argyfwng Wrecsam wasanaeth cyflenwi gwaith cymdeithasol y tu allan i oriau dros y penwythnos pan gafodd Ethan ei anfon i’r ysbyty a phan fu farw.

 “Fe weithiodd y Tîm Dyletswydd Argyfwng ochr yn ochr â’r heddlu a chydweithwyr iechyd i ymateb i’r pryderon diogelu a ddaeth i sylw gwasanaethau, gan ddarparu cefnogaeth gwaith cymdeithasol brys a chyfrannu at wneud penderfyniadau aml-asiantaeth yn ystod sefyllfa heriol a gofidus iawn.

 “Ers hynny, mae Tîm Dyletswydd Argyfwng Cyngor Wrecsam wedi gweithio’n agos gyda Sir y Fflint, Heddlu Gogledd Cymru a’r gwasanaethau iechyd i edrych ar unrhyw wersi y gellir eu dysgu, yn cynnwys y ffordd y mae gwybodaeth a chofnodion yn cael eu rhannu rhwng asiantaethau.

“Roedd hwn yn achos torcalonnus lle bu farw bachgen bach, ac mae gan yr adolygiad achos hwn – fel pob adolygiad achos arall – rôl bwysig iawn i’w chwarae wrth wella’r ffordd y mae asiantaethau cyhoeddus yn cydweithio i amddiffyn plant rhag niwed.”

Gadael y Safle