Eithafiaeth a Radicaleiddio

Nid oes angen argyhoeddi’r mwyafrif helaeth o bobl, ym mhob cymuned, fod terfysgaeth yn anghywir ac maen nhw am ei weld yn cael ei atal.  Mae pobl o bob cymuned am chwarae eu rhan wrth helpu i wneud i hynny ddigwydd.  Mae rôl gan bob un ohonom i sicrhau bod ein cymunedau yn cael eu cadw’n ddiogel a bod modd darparu’r help a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i unigolion a allai fod mewn perygl o gael eu radicaleiddio.

Pwrpas Prevent yw cael cefnogaeth pobl yn ein cymunedau i gyrraedd y lleiafrif llai o lawer a allai gael eu tynnu i mewn i derfysgaeth, yn aml drwy farn eithafol.

Mae tri phrif amcan gan strategaeth Prevent:

  • Ideoleg – Ymateb i’r her ideolegol rydym yn ei hwynebu o derfysgaeth ac agweddau ar eithafiaeth, a’r bygythiad rydym yn ei wynebu gan y rhai sy’n hyrwyddo’r farn honno.
  • Unigolion – Darparu help ymarferol i atal pobl rhag cael eu tynnu i mewn i derfysgaeth a sicrhau eu bod yn cael cyngor a chefnogaeth priodol.
  • Sefydliadau – Gweithio gydag amrywiaeth eang o sectorau (gan gynnwys addysg, cyfiawnder troseddol, ffydd, elusennau, ar-lein ac iechyd) lle mae risgiau o radicaleiddio mae angen i ni ymdrin â hwy.

Nodi

Dyma enghreifftiau o ddangosyddion a allai awgrymu bod unigolyn yn agored i eithafiaeth dreisgar:

  • Barn a fynegir – fel cefnogaeth ar gyfer trais a therfysgaeth neu werthoedd sefydliadau eithafol, rhannu cwynion gwleidyddol neu grefyddol, peidio derbyn cenedligrwydd, crefydd neu ddiwylliant eraill.
  • Materol – meddu ar lenyddiaeth eithafol; ymdrechion i gael mynediad i wefannau eithafol ac ystafelloedd sgwrsio cysylltiedig wedi’u diogelu â chyfrinair; meddu ar ddeunydd am arfau, ffrwydron neu hyfforddiant milwrol.
  • Ymddygiad a newidiadau ymddygiadol – fel tynnu’n ôl oddi wrth deulu a chyfoedion; gelyniaeth tuag at gyn gysylltiadau a theulu; cysylltiad â sefydliadau sydd wedi’u gwahardd* a’r rhai sydd â barn eithafol (Dan Ddeddf Terfysgaeth 2000, mae pŵer gan yr Ysgrifennydd Cartref i wahardd – dan y gyfraith – sefydliad y credir ei fod yn ymwneud â therfysgaeth. Mae manylion pob sefydliad a gaiff eu gwahardd gan lywodraeth y DU i’w gweld yma).
  • Hanes personol – Honiadau neu dystiolaeth o ymwneud â sefydliadau sy’n lleisio ideoleg eithafol dreisgar ac uniaethu â’u hachos.

Dyletswydd Prevent

Mae Prevent yn rhan bendant o strategaeth gwrthderfysgaeth y Llywodraeth, CONTEST, sy’n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar drwy strategaethau sy’n lleihau’r tebygolrwydd o unigolion yn cefnogi ideoleg dreisgar neu eithafol neu ddod yn derfysgwyr.  Mae Prevent yn berthnasol i bob math o eithafiaeth, gan gynnwys eithafiaeth pell i’r dde a gall effeithio ar bob cymuned, waeth beth yw eu ffydd neu gefndir.

Mae’r Llywodraeth yn diffinio eithafiaeth fel gwrthwynebiad lleisiol neu weithredol i werthoedd sylfaenol Prydeinig, gan gynnwys democratiaeth, rheolaeth y gyfraith, rhyddid yr unigolyn a chyd-barch a goddefgarwch o wahanol ffydd a chredoau.   Mae’r Llywodraeth hefyd yn cynnwys yn y diffiniad o eithafiaeth, galwadau am farwolaeth aelodau o’n lluoedd arfog.

Nid yw Prevent yn ymwneud â dal terfysgwyr, mae’n golygu nodi pobl sydd mewn perygl o radicaleiddio, neu a allai fod mewn perygl o radicaleiddio, a’u cefnogi i newid cyfeiriad mewn ffordd a fydd yn eu helpu.

Ble i fynd i gael cymorth

Os ydych yn pryderu am unrhyw un a allai fod mewn perygl o gael eu radicaleiddio, neu os ydych yn poeni am rywun sy’n teithio i Syria neu’n dychwelyd oddi yno, dylech siarad â’r heddlu ar 101. Mewn argyfwng, neu i roi gwybod am ddigwyddiad terfysgol a amheuir, ffoniwch yr heddlu ar 999

Am fwy o wybodaeth ewch i Let’s Talk About It http://www.ltai.info/