Dull ysgol gyfan ar gyfer cam-drin plant yn rhywiol – Canolfan CSA

Hannah Cassidy

image of the CSA Logo

Yr adnodd diweddaraf gan y Ganolfan CSA i weithwyr proffesiynol addysg: Rhoi dull ysgol gyfan ar waith ar gyfer cam-drin plant yn rhywiol.  Cafodd Dull ysgol gyfan ar gyfer cam-drin plant yn rhywiol | Canolfan CSA ei gyhoeddi ychydig wythnosau yn ôl. 

Bwriad yr arweiniad fesul cam yw helpu lleoliadau blynyddoedd cynnar, ysgolion, colegau a lleoliadau addysg eraill i wella eu hymateb i gam-drin plant yn rhywiol.  Datblygwyd y fframwaith ar y cyd ag ystod o leoliadau addysg yng Nghymru a Lloegr dros ddwy flynedd academaidd, gan gynnig arweiniad sy’n adlewyrchu realiti’r hyn mae gweithwyr proffesiynol addysg yn ei wynebu heddiw.  

Dyma’r cyntaf o lawer o adnoddau ymarferol yn ein fformat newydd, hygyrch, ar-lein yn gyntaf.

Gan ddechrau gyda Dull Ysgol Gyfan, bydd ein canllawiau ymarferol yn haws i weithwyr proffesiynol eu defnyddio ar ffôn neu lechen, gan ei gwneud yn haws dod o hyd i’r arweiniad cywir ar yr amser cywir.  Rydym hefyd yn gwybod bod gwahanol bobl yn hoffi gweithio mewn gwahanol ffyrdd, felly mae’r fformat PDF hefyd ar gael ar frig y dudalen, gan roi mwy o ddewis o ffyrdd i ddefnyddio ein hadnoddau.

Rhannwch y neges hon gyda’ch rhwydweithiau addysgol er mwyn ein helpu i rannu’r adnodd newydd.

Gadael sylw