• Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru

  • Gwybodaeth
  • Cyhoeddus
    • Gwybodaeth i Blant a Phobl Ifanc
      • Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant
      • Fframwaith ymddygiad rhwiol niweidiol
      • Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant
    • Gwybodaeth ar gyfer Oedolion
      • Caethwasiaeth Fodern
      • Camddefnydd Ariannol
      • Cam-drin Domestig
      • Eithafiaeth a Radicaleiddio
      • Hunan-Esgeulustod a Chelcio
      • Linellau Sirol
  • Gweithwyr proffesiynol
    • Digwyddiadau a hyfforddiant
    • Aelodau’r Bwrdd
      • BDPGC
      • BDOGC
    • Polisïau a Gweithdrefnau
    • Dogfennau’r Bwrdd
    • Adolygiadau Ymarfer
    • Gweithdrefnau Diogelu Cymru
    • Datblygu’r Gweithlu
    • Cynllun Gweithredu Camdrin Plant yn Rhywiol
  • Adnoddau
    • Briffiau 7 munud
    • Llyfrgell Dogfennau
    • PRUDiC
    • Cardiau Z
  • Blog
  • CC (FAQ)

Gweithdrefnau Diogelu Cymru

Logo Wales Safeguarding Procedures

Mae ap Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar gael i’w lawrlwytho nawr trwy’r Apple App Store a Google Play Store. Gellir eu gweld yn Saesneg hefyd yn www.safeguarding.walesac yn Gymraeg www.diogelu.cymru.


I gyrchu Adnoddau Gofal Cymdeithasol Cymru ar Weithdrefnau Diogelu Cymru – cliciwch ar y ddolen isod:

https://gofalcymdeithasol.cymru/hub/hub-resource-sub-categories/sgweithdrefnau-diogelu—deunyddiau-hyfforddi-oedolion

‘Beth sy’n Wahanol?’
Canllaw Cyflym i Newidiadau Allweddol

Beth sy’n Wahanol – Diogelu Oedolion
Beth sy’n Wahanol’ – Diogelu Plant

Gweithdrefnau Diogelu Cymru – Mehefin 2020

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob Bwrdd Diogelu fabwysiadu Gweithdrefnau Diogelu Newydd Cymru Gyfan fel y bwriadwyd yn wreiddiol ym mis Ebrill. Mae Llywodraeth Cymru yn deall efallai na fydd yn bosibl gweithredu’r cynllun yn llawn fel y bwriadwyd yn wreiddiol o fewn yr amgylchiadau presennol ac rydym yn disgwyl y bydd hyn yn parhau’n ansicr am wythnosau a misoedd i ddod.

Yn unol â’r cais gan Lywodraeth Cymru, byddwn yn gweithio ar sicrhau bod
egwyddorion allweddol Gweithdrefnau Diogelu Newydd Cymru Gyfan yn cael eu dilyn

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol i sicrhau bod egwyddorion allweddol Gweithdrefnau Diogelu Newydd Cymru Gyfan yn cael eu dilyn. Ni yw’r unig Fwrdd yng Nghymru hyd yma sydd wedi cyflwyn gweithdai i bartneriaid aml-asiantaeth. Mae’r ap wedi cael ei rannu ar draws y rhanbarth fel rhan o’r gweithdai amlasiantaeth a gynhaliwyd.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 a’r canllawiau cydweithio ar ymdrin ag achosion unigolion yn darparu fframwaith cyfreithiol clir ar gyfer asiantaethau i ddiogelu unigolion sydd mewn perygl.
Er mwyn cefnogi’r broses o roi’r gweithdrefnau ar waith, byddwn yn gofyn i isgrwpiau’r Bwrdd ddechrau nodi pecynnau gwaith ychwanegol sydd eu hangen i gefnogi ymarferwyr wrth iddynt weithio gyda’r gweithdrefnau.
Ym mhob cyfarfod o’r Bwrdd, darperir diweddariad ynghylch cynnydd pob asiantaeth o ran gweithredu’r gweithdrefnau.

Os ydych wedi nodi unrhyw newidiadau arfaethedig i weithdrefnau diogelu Cymru gyfan, anfonwch e-bost at: info@safeguarding.wales

Cwestiynau Cyffredin am Weithdrefnau Diogelu Cymru

Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru newydd yn darparu arweiniad i ymarferwyr sy’n ymwneud â diogelu ynghylch sut y dylid gwneud pethau

Cwestiynau Cyffredin am Weithdrefnau Diogelu CymruDownload

Dull cenedlaethol newydd o wella diogelu yng Nghymru

Cymru fydd rhan gyntaf y DU i gyflwyno set unigol o ganllawiau diogelu ar gyfer plant ac oedolion mewn perygl pan fydd Gweithdrefnau Diogelu Cymru’n cael eu lansio, ar-lein a thrwy ap, ar 11 Tachwedd 2019.

Bydd Gweithdrefnau Diogelu Cymru’n safoni ymarfer ledled Cymru a rhwng asiantaethau a sectorau. 

Bydd y gweithdrefnau yn nodi rolau a chyfrifoldebau pawb sy’n gweithio gydag oedolion neu blant sy’n profi, neu sydd mewn perygl o ddioddef o gamdriniaeth, esgeulustod neu ffurfiau eraill ar niwed.  Byddant yn disodli’r Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan presennol, a gweithdrefnau lleol amrywiol ar gyfer oedolion a chanllawiau eraill a gyhoeddwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru. 

Dim ond yn ddigidol y bydd Gweithdrefnau Diogelu Cymru’n cael eu cyhoeddi. 

Ni fydd unrhyw gopi argraffedig o’r gweithdrefnau. Yn lle hynny, byddant ar gael i bawb ar-lein, naill ai trwy wefan neu ap symudol Gweithdrefnau Diogelu Cymru a fydd ar gael ar gyfer dyfeisiau iPhone ac Android.

Mae hyn yn golygu y bydd fersiwn gyfredol unigol bob amser ar gael i bob ymarferydd. Bydd hefyd yn ei gwneud yn haws ac yn gynt dod o hyd i wybodaeth.

Bydd ‘arwyddion arfer’ yn rhan o’r fersiynau ap a gwe ac yn rhoi cyfarwyddyd ‘sut i’ hawdd ar gyfer ymarferwyr.  Mae’r arwyddion arfer hyn yn cynrychioli’r datblygiadau ymchwil ac ymarfer diweddaraf.

Bydd geirfa y gellir chwilio drwyddi ar gael ar y ddau blatfform.  Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i bobl weithio mewn partneriaeth gan y bydd yn sicrhau bod pob ymarferydd yn defnyddio’r un derminoleg yn yr un ffordd, waeth beth fo’i sector neu faes proffesiynol.

Caiff Gweithdrefnau Diogelu Cymru eu cyhoeddi ar 11 Tachwedd 2019 a byddant ar gael i bawb eu gweld o’r dyddiad hwn drwy’r wefan swyddogol neu drwy lawrlwytho ap symudol Gweithdrefnau Diogelu Cymru. 

Bydd angen wedyn i bob Bwrdd Diogelu Rhanbarthol fabwysiadu’r gweithdrefnau’n swyddogol.  Ar y pwynt hwn, cânt eu hardystio i’w defnyddio ym mhob rhanbarth.

Bydd angen i bob bwrdd drefnu ei amserlen ei hun ar gyfer mabwysiadu’r gweithdrefnau, ond disgwylir y caiff Gweithdrefnau Diogelu Cymru eu hystyried gan bob un cyn diwedd mis Ionawr 2020.


Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English

Primary Sidebar

Chwilio

Digwyddiadau a hyfforddiant
Polisiau a gweithdrefnau
Adolygiadau ymarfer
Dogfennaur bwrdd
Aelodau
Blog
Wythnos diogelu

Y Negeseuon Diweddaraf

  • Briffau 7 Munud Newydd
  • Wythnos Diogelu Genedlaethol Cymru 13 – 17 Tachwedd 2023
  • Briffau 7 Munud Newydd
  • Cyrsiau rhiantu ar-lein Solihull Approach
  • Briffau 7 Munud Newydd

Newyddlen E-Bost

Cofrestrwch i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf trwy e-bost!

Privacy Notice

Footer

Partneriaid BDGC

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Sir Wrecsam
Heddlu Gogledd Cymru
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (Cymru)
Cwmni Ailsefydlu Cymunedol

NISB Logo

Manylion Cyswyllt

Swyddog Gweinyddol Rhanbarthol i’r Bwrdd Diogelu
E-bost: regionalsafeguarding@denbighshire.gov.uk
Ffon: 01824 712903

Hysbysiad Preifatrwydd

Mewngofnodi

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Pryderu am blentyn?

Os ydych yn gwybod am blentyn sydd mewn perygl o gam-drin neu yn cael ei gam-drin, mae’n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i’r cyngor neu’r heddlu.

Os yw’r unigolyn mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu ar unwaith ar 999. Os nad yw mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch y Gwasanaethau Cymdeithasol cyn gynted â phosibl i rannu eich pryderon.

Ynys Môn
01248 725 888
01248 353 551 (y tu allan i oriau swyddfa)

Gwynedd
01758 704 455
01248 353 551 (y tu allan i oriau swyddfa)

Conwy
01492 575111
0300 1233079 (y tu allan i oriau swyddfa)

Sir Ddinbych
01824 712 200
0345 053 3116 (y tu allan i oriau swyddfa)

Sir y Fflint
01352 701 000
0345 053 3116 (y tu allan i oriau swyddfa)

Wrecsam
01978 292 039
0345 053 3116 (y tu allan i oriau swyddfa)

Poeni am Oedolyn?

Os ydych yn gwybod am oedolyn sydd mewn perygl o gam-drin neu yn cael ei gam-drin, mae’n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i’r cyngor neu’r heddlu

Os yw’r person mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr Heddlu ar unwaith ar 999. os nad ydyw mewn perygl dybryd. ffoniwch y Gwasanaethau Cymdeithasol cyn gynted â phosibl i rannu eich pryderon.

Ynys Môn
01248 750057
01248 353551 (Y tu allan i oriau swyddfa)

Gwynedd
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant: 01766 772577
01248 353551 (Y tu allan I oriau swyddfa)

Conwy
Oedolion:
0300 4561111
0300 1233079 (Y tu allan i oriau swyddfa)

Sir Ddinbych
0300 4561000
0345 053 3116 (Y tu allan i oriau swyddfa)

Sir y Fflint
03000 858858
0845 053 3116 (Y tu allan I oriau swyddfa)

Wrecsam
01978 292066
0345 053 3116 (Y tu allan I oriau swyddfa)

Copyright © 2023 · Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru · Mewngofnodi

  • Cymraeg
  • English