Ymrwymiad i fynd i’r afael â CSE yng Nghymru

Alan Thompson

Updated on:

Mae addewid i fynd i’r afael ag achosion o Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant wedi’i wneud heddiw (dydd Iau, 14 Mai) a hynny mewn uwchgynhadledd yn Llanelwy.
Roedd yr addewid, ynghyd â chydnabyddiaeth aml-asiantaeth bod gwaith partneriaeth yn allweddol wrth fynd i’r afael â Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant a sefydlu tîm heddlu arbenigol yn rhai o’r pwyntiau allweddol a gododd o ganlyniad i’r uwchgynhadledd gyntaf o’i math a gynhaliwyd yn yr ardal.

Agorwyd y diwrnod gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Mr Winston Roddick a Phrif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Mark Polin. Daeth yr Uwchgynhadledd â llawer o Brif Weithredwyr, Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, diogelu, iechyd a chyfiawnder troseddol.

Gyda Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant a Cham-drin Plant yn cael eu cydnabod yn genedlaethol fel bygythiad cynyddol, pwysleisiodd y Prif Gwnstabl Mark Polin bwysigrwydd rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau a thynnodd sylw at yr adnoddau a’r gweithredoedd ychwanegol sy’n digwydd er mwyn mynd i’r afael â hyn, er mwyn stopio troseddwyr ac amddiffyn plant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru. Bydd y Tîm Arbenigol yn Heddlu Gogledd Cymru a fydd yn mynd i’r afael ag Ecsbloetio Plant yn Rhywiol yn weithredol ddiwedd yr haf. Bydd y Tîm yn cynnwys Rhingyll a thri Swyddog a fydd wedi’u lleoli ym Mae Colwyn a byddant yn gweithio gydag amrywiaeth o asiantaethau er mwyn ymchwilio i achosion a rhannu gwybodaeth. Amlinellwyd ymrwymiadau pellach wrth i y adnoddau ychwanegol gael eu rhoi i’r Uned Uwch Dechnoleg er mwyn delio â bygythiadau ar-lein.

Meddai Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Gogledd Cymru, Winston Roddick CB QC: “Mae sefydlu tîm newydd yn hynod o bwysig gan fod y rhai sy’n dioddef y wholesale jerseys trosedd a’r rhai hynny sy’n gwybod am bobl sydd wedi dioddef trosedd rŵan yn gwybod fod rhywun penodol yno i edrych ar yr holl ffeithiau am y drwgweithredwyr ac er mwyn eu rhoi o flaen eu gwell.

“Roedd yn amlwg o’r adroddiadau a oedd yn dod o Rotherham, Bryste, Caergrawnt a Rhydychen bod y trosedd hwn yn digwydd rŵan, ei fod yn rhywbeth cyfoes.

“Does dim byd pwysicach na phlant a sicrhau eu diogelwch. Y broblem gyda Rotherham yw fod y bleidlais wedi dod yn bwysicach na lles unrhyw blentyn.

Ychwanegodd: “Bydd ein hymateb cadarnhaol yn datblygu hyder y cyhoedd bod Heddlu Gogledd Cymru – mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill – wedi penderfynu mynd i’r afael â’r broblem enfawr hon er mwyn sicrhau bod plant yn ddiogel yn eu cartrefi ac mewn mannau cyhoeddus.”

Clywodd mynychwyr yr Uwchgynhadledd gan nifer o siaradwyr gan gynnwys Dr Helen Beckett, Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Ryngwladol sy’n ymchwilio i Gam-fanteisio’n Rhywiol ar Blant, Trais a Masnachu ym Mhrifysgol Bedfordshire. Rhoddodd Dr Beckett wholesale jerseys syniad am y darlun cenedlaethol, arferion gorau ac yn gynharach yn y diwrnod cadarnhawyd y ddealltwriaeth am yr hyn yw Cam-fanteisio’n Rhywiol ar Blant a’r heriau mae asiantaethau’n eu hwynebu wrth geisio mynd i’r afael â’r broblem.

Cafodd y ffactorau penodol sy’n helpu i adnabod dioddefwyr y math hwn o gamdriniaeth rywiol eu hadnabod gan Barnados Cymru, fel y cafodd y gwaith parhaus sy’n cael ei wneud gyda Heddlu Gogledd Cymru, ac sydd wedi gweld dros 500 o blant, pobl ifanc, gweithwyr proffesiynol, rhieni a gofalwyr yn elwa o sesiynau atal Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant

Trefnwyd yr Uwchgynhadledd gan Fwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru ac mae’n dystiolaeth o’r flaenoriaeth sy’n cael ei rhoi i gydweithio er mwyn mynd i’r afael â Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant ac adnabod a diogelu plant sy’n ddioddefwyr.

“Mae Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant yn un o flaenoriaethau’r Bwrdd Diogelu” meddai Jenny Williams, Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac sydd hefyd yn Cadeirio Bwrdd wholesale jerseys Diogelu Plant Gogledd Cymru. “Bydd y bwrdd yn parhau i gydweithio’n agos â’r holl asiantaethau er mwyn cryfhau’r systemau sy’n bodoli er mwyn diogelu plant a phobl ifanc rhag y trosedd erchyll hwn.”

Ynghyd ag adnabod blaenoriaethau ar gyfer mynd i’r afael â Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant, roedd y diwrnod hefyd yn gyfle i gael gwell dealltwriaeth o’r broblem, sut mae asiantaethau’n ymateb a dealltwriaeth o waith da presennol ac ymwybyddiaeth o arferion da cenedlaethol.

Meddai’r Prif Gwnstabl Mark Polin: “Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i fod yn bartner allweddol ac yn cydweithio’n agos â’r holl asiantaethau er mwyn sicrhau agwedd effeithiol a chynaliadwy tuag at y mater o Gamfanteisio’n Rhywiol ar Advice Blant. Er mwyn gallu gwneud hyn yn effeithiol rhaid i ni yn gyntaf ddeall y broblem, cefnogi’r rhai sy’n rhan ohoni, aflonyddu drwgweithredwyr a Papers chosi ymwybyddiaeth ymysg plant a phobl ifanc, gofalwyr, rhieni a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.”

“Rydym yn falch iawn gyda’r 20 ymateb rydym wedi’i chael a’r nifer fawr o bobl sydd wedi mynychu heddiw. Mae’n dangos y brwdfrydedd sy’n bodoli er mwyn atal plant rhag cael eu Camfanteisio arnynt yn rhywiol.”

Leave a Comment