“Risking it all”
Mae Heddlu Gogledd Cymru a Bwrdd Diolgelu Gogledd Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth I gyflwyno prosiect pilot lle mae pobol ifanc yn cael y cyfle i weld drama sydd yn ymdrin a materion all beri pryder iddynt hwy a’u teuluoedd.
Mae Camfanteisio yn Rhywiol ar Blant, ynghyd a defnydd anaddas o gyfryngau cymdeithasol, camddefnydd alcohol a sylweddau yn faterion sydd yn cael ei amlygu mewn drama o ‘Risking it all’ sydd yn cael ei chyflwyno gan Gwmni Perfformio 2engage , o Brifysgol Caer.
Cychwynwyd yr wythnos yn Ysgol Uwchradd Cei Conna, a bydd y ddrama yn teithio I 5 ysgol arall yn ystod yr wythnos sef, Ysgol Uwchradd Fflint, Caergybi, Prestatyn, Ysgol Dyffryn Nantlle a Ysgol Darland yn Wrecsam.
Meddai Ditectif Rhingyll Sarah Fellows ” Pwrpas y ddrama ydi codi ymwybyddiaeth o’r materion ac sicrhau bod pobol ifanc yn ymwybodol bod help a chefnogaeth ar gael ac yn gwybod sut i gael gafael ar help. Mae Camfanteisio yn Rhywiol ar Blant yn flaenoriaeth strategol i’r Bwrdd Diogelu ac i Heddlu Gogledd Cymru ac rydym yn gweithio yn agos er mwyn gwarchod ac atal pobl ifanc rhag dod yn ddioddefwyr o gamfantais rhwyiol. Mae cyflwyno ‘ Risking it All’ yn rhan o’r gwaith yma sydd gobeithio yn codi ymwybyddiaeth”
Mae’r ddrama yn defnyddio straeon gwir i gyfleu effaith ymddygiad peryglus. Wrth edrych ar y cyflwyniad bydd y gwylwyr ifanc yn cael y cyfle i drafod yn agored y peryglon oedd y cymeriadau yn ei gymeryd a’r canlyniadau posibl. Dim ond yn dilyn trafodaeth gall y disgyblion weld beth oedd tynged y cymeriadau, Julia, Ben a Mason
Dywedodd Sara Lloyd Evans, Rheolwr Busnes y Bwrdd Diogelu ” Gwelodd 175 o ddisgyblion blwyddyn 9 y ddrama dydd Llun a cafwyd adborth positif. Dywedodd y disyblion bod y themau yn berthnasol ac ei bod wedi mwynhau fforwm theatre ac roeddent yn credu ei fod yn ffordd dda o gyflwyno materion godwyd yn y ddrama. Bydd dros 700 o ddisgyblion yn gweld y ddrama wythnos yma a bydd y Bwrdd Diolgelu yn cael cyfle i drafod gyda’r bobol ifanc materion sydd yn ei pryderu. Rydym yn gobeithio rowlio cyflwyniad tebyg ar draws 54 o ysgolion Gogledd Cymru yn y dyfodol agos Diolch yn fawr i’r ysgolion unigol am gytuno i gymeryd rhan yn y cyflwyniadau hyn ac i gefnogi gwaith Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru.”
.