Mae Celcio yn ddiagnosis iechyd meddwl cydnabyddedig. Celcio yw casglu a chadw eithafol o unrhyw ddeunydd sy’n arwain at lenwi’r cartref ac atal gweithgareddau arferol rhag digwydd yno. Arwyddion o gelcio yw:
- anhawster cyson i gael gwared ag eiddo oherwydd eu bod yn teimlo bod angen eu cadw,
- ymlyniad emosiynol dwys i wrthrychau na fyddai eraill yn ystyried bod ganddynt yr un gwerth,
- gofid wrth feddwl am gael gwared â’r eitemau.
Weithiau mae celcio yn gysylltiedig â hunan-esgeulustod, sy’n “ddiffyg hunanofal eithafol” a “gall fod o ganlyniad i broblemau eraill megis dibyniaeth”. Gall hyn gynnwys:
- Diffyg hunanofal i’r graddau ei fod yn bygwth iechyd a diogelwch personol,
- Esgeuluso gofalu am hylendid personol, iechyd, maeth neu amgylchedd yr unigolyn
- Methu ag osgoi niwed o ganlyniad i hunan-esgeulustod,
- Methu â cheisio cymorth, cefnogaeth neu gael gafael ar wasanaethau i ddiwallu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol,
- Gwrthod gwasanaethau a fyddai’n lleihau’r perygl o niwed
- Amharodrwydd i reoli materion personol


