Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Anableddau Dysgu (15-21 Mehefin 2026), a gynhelir gan Mencap.
Y thema eleni ‘Ydych chi’n fy ngweld?’ yn ymwneud â chael ein gweld, ein clywed a’n gwerthfawrogi. Y nod yw herio’r rhwystrau mae pobl ag anableddau dysgu yn eu hwynebu ac i ddathlu eu cyfraniadau i gymdeithas.
Ydych chi’n gwybod sut i ddweud ynglŷn â phryderon os ydych yn poeni am rywun sydd ag Anabledd Dysgu?
Bydd hyrwyddo gwell dealltwriaeth o’r rhwystrau mae pobl sydd ag anabledd dysgu yn eu hwynebu yn caniatáu iddynt fod yn ddiogel mewn cymunedau heb y perygl o wahaniaethu, troseddau casineb a chamdriniaeth
Mae diogelu oedolion yn ymwneud â chadw pobl yn ddiogel a’u hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod, gan gynnwys hunan-esgeulustod, ble bynnag fo’n bosib. Dylid gwneud ymholiadau diogelu pan:
- pan fo rhywun yn 18 oed neu hŷn;
- mae gan unigolyn anghenion gofal a chefnogaeth;
- yn profi, neu mewn perygl o, gamdriniaeth neu esgeulustod; a
- o ganlyniad i’w anghenion gofal a chymorth, nid ydynt yn gallu amddiffyn eu hunain yn erbyn camdriniaeth neu esgeulustod, neu’r perygl ohono.


