Mae NSPCC Learning wedi cyhoeddi cyfres newydd o bosteri Childline i annog plant i ddefnyddio Childline os oes angen cymorth arnynt. Mae posteri ar gael ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae hefyd bosteri newydd sy’n tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i bobl ifanc, megis y Calm Zone a’r gwasanaeth Report Remove.
Gellir lawrlwytho’r posteri a’u rhannu’n ddigidol neu’u hargraffu i’w harddangos.




