Rhaeadrwch i’ch rhwydweithiau os gwelwch yn dda:
https://www.checkyourthinking.org/language/cy/
Mae’r adnoddau a’r deunyddiau hyn wedi’u datblygu ar sail ymchwil a gweithio mewn partneriaeth â phobl ifanc, gofalwyr maeth, yn ogystal â gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig.
Fe’u dyluniwyd i’w defnyddio gan bawb sy’n gweithio gyda phobl ifanc ac yn gofalu amdanynt. Os ydych chi’n un o’r bobl hyn, gallai’r rhain fod o ddefnydd i chi, beth bynnag yw eich rôl.
Maent yn rhannu negeseuon gan bobl ifanc sydd â phrofiadau o gamfanteisio a niwed, am eu profiad o ddiogelu a chefnogi. Daw’r negeseuon hefyd gan y rhai sy’n gweithio gyda phobl ifanc ac yn gofalu amdanynt, am y gefnogaeth sydd ei hangen a rhai o’r heriau sy’n gysylltiedig â diogelu.
Mae’r holl adnoddau wedi’u dylunio i’ch helpu chi i ‘ystyried eich ffordd o feddwl’ am faterion allweddol wrth ddiogelu pobl ifanc rhag camfanteisio, niwed ac enghreifftiau eraill o gamdriniaeth, fel: asesu a rheoli risg, ymateb i bobl ifanc, ymarfer amlasiantaethol, pwysigrwydd iaith, a dulliau sy’n canolbwyntio ar y plentyn.
Mae’r animeiddiad byr hwn wedi’i greu ar gyfer pobl ifanc. Mae’n ffordd o roi gwybod iddynt eu bod wedi cael eu clywed, bod eu lleisiau wedi cyfrannu at bolisi newydd, a bod cefnogaeth ar gael.
https://www.youtube.com/watch?v=YT-tftwYUzg
Mae’r animeiddiad yn seiliedig ar negeseuon ymchwil gan bobl ifanc, yn ogystal â gofalwyr ac ymarferwyr. Fe’i datblygwyd mewn partneriaeth â phobl ifanc o Voices from Care. Eu geiriau nhw rydych yn eu gweld a’u clywed.