Adolygiad y Tir Dieithr

Hannah Cassidy

Mae Hyb Cymorth ACE yn falch o rannu gyda chi Adolygiad y Tir Dieithr.

Yn 2013, comisiynodd Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru (WSMP), gyda chyllid gan y Swyddfa Gartref a chymorth gan Lywodraeth Cymru, ymchwil i drais yn erbyn menywod a merched mudol sy’n ffoaduriaid a sy’n ceisio lloches yng Nghymru. Edrychodd yr ymchwil hon ar fodd WSMP o nodi trais ar sail rhywedd fel mater difrifol i fenywod a merched mewn cymunedau ceisio lloches, ffoaduriaid a mudol, a gymhlethwyd ymhellach trwy rwystrau i gyrchu cymorth ac amddiffyniad.

Mae’r adolygiad newydd amserol hwn dan arweiniad Hyb Cymorth ACE, yn rhoi diweddariad ar argymhellion yr adroddiad gwreiddiol ond mae hefyd yn myfyrio ar y cynnydd a wnaed yng ngoleuni profiad y pandemig COVID-19. Mae wedi canfod, er bod bylchau yn parhau, y gwnaed rhywfaint o gynnydd gwirioneddol o ran deddfwriaeth polisi yng Nghymru a’r DU ehangach. Dywedodd awdur yr adroddiad, Amira Assami:

“Mae Adroddiad y Tir Dieithr yn dal i fod yr unig ymchwil yng Nghymru a archwiliodd drais yn erbyn menywod a merched mudol, sy’n ffoaduriaid a sy’n ceisio lloches. Fodd bynnag, er gwaethaf datblygiadau sylweddol mewn polisi a deddfwriaeth gan Lywodraethau’r DU a Chymru ers 2013, mae angen gwneud gwaith o hyd. Archwiliodd yr adolygiad hwn ymhellach y realiti sy’n wynebu menywod a merched mudol, sy’n ffoaduriaid a sy’n ceisio lloches, yn arbennig yn ystod y pandemig COVID-19 a waethygodd eu gwendidau. Rwy’n obeithiol y bydd canlyniad yr adolygiad cyfredol yn llywio polisi ac arfer y DU a Chymru yn well ac yn gweithredu fel cam tuag at ymchwil bellach i atal Trais yn erbyn Menywod a Merched ym mhob cymuned a gwella’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael ar gyfer y grŵp hwn.”

Bydd yr adroddiad yn helpu i lywio datblygiad Strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ynghyd â’r ymrwymiad i Gymru ddod yn Genedl Noddfa. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr adolygiad hwn neu waith ehangach Hyb Cymorth ACE Cymru yna cysylltwch â ni yn: ace@wales.nhs.uk

Leave a Comment