Canllaw i’ch helpu chi i benderfynu a yw eich plentyn yn barod i aros gartref neu i fynd allan ar ei ben ei hun.
Wrth i’ch plentyn dyfu, mae’n debyg y bydd angen mwy o annibyniaeth arno. Mae aros gartref neu fynd allan ar ei ben ei hun yn gam naturiol iddo’i gymryd — pan fydd yr amser yn iawn.
Mae’n gallu bod yn anodd penderfynu a yw eich plentyn yn barod. Mae yna lawer i feddwl amdano. A llawer y gallech chi fod yn poeni amdano. Mae’r canllaw hwn wedi’i gynllunio i leihau’r pryder hwnnw, drwy eich helpu i wneud y penderfyniad cywir ar eich cyfer chi a’ch plentyn.


