Atal cam-drin plant yn rhywiol Sesiynau addysg gyhoeddus

Hannah Cassidy

Prosiect atal cam-drin plant yn rhywiol yw Stop It Now! Cymru, sy’n cael ei redeg gan Sefydliad Lucy Faithfull, elusen amddiffyn plant.

Ers 2008, rydym wedi bod yn gweithio ledled Cymru er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn rhag profiadau niweidiol yn ystod plentyndod drwy atal cam-drin plant yn rhywiol ac ecsbloetiaeth. Mae Stop It Now! Cymru’n gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru er mwyn gwneud plant, pobl ifanc a chymunedau yn fwy diogel.

A fyddai gennych ddiddordeb mewn cynnal un neu fwy o’n sesiynau addysg gyhoeddus i rieni, gofalwyr neu weithwyr proffesiynol?

Mae’r rhain yn rhad ac am ddim.

Byddai eu cynnal yn golygu eich bod yn darparu lleoliad ac yn gwahodd cyfranogwyr, tra byddem ni’n mynychu ac yn darparu’r sesiynau dwy awr.  Am fwy o wybodaeth ewch i https://www.stopitnow.org.uk/wales

Leave a Comment