Mae Wythnos Iechyd Meddwl Plant yn wythnos i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a lansiwyd gan yr elusen iechyd meddwl plant, Place2Be. Mae’r wythnos yn cael ei threfnu er mwyn rhoi grym, adnoddau a llais i bob plentyn a pherson ifanc yn y DU.
Pryd mae Wythnos Iechyd Meddwl Plant 2025?
Bydd Wythnos Iechyd Meddwl Plant 2025 yn cael ei chynnal rhwng 3 a 9 Chwefror 2025. Lansiwyd yr wythnos ddegawd yn ôl yn 2015, a byddwn yn ei dathlu bob mis Chwefror. Eleni yw’r unfed flwyddyn ar ddeg i ni nodi Wythnos Iechyd Meddwl Plant.
Beth yw thema Wythnos Iechyd Meddwl Plant 2025?
Eleni, mae Wythnos Iechyd Meddwl Plant yn canolbwyntio ar Adnabod eich Hun, Datblygu eich Hun.


