Cadw’n ddiogel ar-lein

Hannah Cassidy

Ym mis Mai 2020, cafodd y parth diogelwch ar-lein ar Hwb ei ailenwi’n Cadw’n ddiogel ar-lein i wella cadernid digidol, gan ddarparu adnoddau a chanllawiau ar ddiogelwch ar-lein, seiberddiogelwch a diogelu data.

Mae rfv bellach wedi’i ailgynllunio’n bwrpasol ar gyfer ein rhanddeiliaid er mwyn eu helpu i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt yn hawdd. Mae’r tudalen hafan newydd yn cynnwys naw teilsen sy’n galluogi defnyddwyr i ddod o hyd i’r adnoddau, y canllawiau, y cyfleoedd a’r cymorth mwyaf perthnasol iddynt:

  • Plant a phobl ifanc – Adran bwrpasol ar gyfer plant a phobl ifanc, sy’n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen i gadw’n ddiogel ar-lein.
  • Rhieni a gofalwyr – adran benodol i rieni a gofalwyr, sy’n cynnwys cyngor a gwybodaeth i helpu i ddiogelu teuluoedd ar-lein.
  • Ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol – adran bwrpasol i ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol er mwyn eu helpu i gadw eu hunain a dysgwyr yn ddiogel ar-lein.
  • Llywodraethwyr– adran bwrpasol i lywodraethwyr gyda chymorth i helpu i gadw cymuned yr ysgol yn ddiogel ar-lein.
  • Cymryd rhan – gwybodaeth am y cystadlaethau, digwyddiadau, hyfforddiant a chyfleoedd diweddaraf ar gyfer lleoliadau addysg yng Nghymru.
  • Adnoddau – llyfrgell o ganllawiau diogelwch ar-lein, seiberddiogelwch a diogelu data ac adnoddau addysgu a dysgu.
  • Cynllun gweithredu – cynllun gweithredu diogelwch ar-lein 2019 ar gyfer plant a phobl ifanc; trosolwg o weithgareddau Llywodraeth Cymru i wella diogelwch ar-lein mewn addysg.       
  • Tynnu sylw – bob mis byddwn yn canolbwyntio ar bwnc penodol neu bwnc sy’n trendio yn ymwneud â diogelwch ar-lein, seiberfwlio neu ddiogelu data.
  • Gwasanaethau cymorth – cymorth pellach, gan gynnwys sut i adrodd am achosion o niwed ar-lein a chael cymorth a chyngor arbenigol.

Yn ogystal â’r teils hyn gallwch hefyd ddod o hyd i’r newyddion diweddaraf ar gadw’n ddiogel ar-lein a dolen i gofrestru ar gyfer y cylchlythyr diogelwch ar-lein misol.

https://hwb.gov.wales/parthau/cadwn-ddiogel-ar-lein

Gadael sylw