A glywsoch chi am yr achosion o gaethwasiaeth fodern yng ngogledd Cymru?
Yng Nghymru, camfanteisio ar weithwyr yw’r ail ffurf fwyaf cyffredin o gaethwasiaeth fodern, ar ôl camfanteisio rhywiol, gyda’r sectorau amaeth, bwyd, lletygarwch ac adeiladu yn agored iawn i arferion llafur gorfodol
Oeddech chi’n gwybod bod llawer o’r dioddefwyr wedi eu cludo yma yn anghyfreithlon?
Maen nhw’n meddwl eu bod nhw’n dod yma am un rheswm h.y. gwaith cyfreithlon, ond unwaith maen nhw wedi cyrraedd maen nhw’n cael eu cadw a’u rheoli gan y bobl y bu iddyn nhw ymddiried ynddyn nhw.
Wyddoch chi nad tramorwyr yn unig yw’r dioddefwyr?
Gall dinasyddion diamddiffyn y Deyrnas Unedig hefyd ildio i swyn y meistri caethwasiaeth fodern.
Mae caethwasiaeth fodern hefyd yn digwydd mewn cymunedau gwledig annisgwyl.
Byddwch yn wyliadwrus, edrychwch allan am yr arwyddion ac os ydych chi’n amau unrhyw beth, rhowch wybod amdano.
Eisiau gwybod mwy?
I ddysgu mwy am gaethwasiaeth fodern, gwyliwch y fideos byr sydd ar gael trwy’r dolenni isod i godi’ch ymwybyddiaeth.
Ffilm Atal Caethwasiaeth Cymru: https://www.youtube.com/watch?v=rKWCdsoTk1I
Adroddiad Anthony Harrison i’r BBC: http://www.bbc.co.uk/news/uk-14072824
Adroddiad Lucy Adeniji i’r BBC: http://www.bbc.co.uk/news/uk-england-london-12799805
Channel 4 News: http://www.channel4.com/news/traveller-couple-jailed-for-enslaving-homeless-men
Cyhoeddiadau:
I roi gwybod am unrhyw achos o gaethwasiaeth fodern yr ydych chi’n ei amau:-
Mewn argyfwng: ffoniwch 999
Os nad yw’n argyfwng: ffoniwch 101
Os hoffech chi aros yn anhysbys, ffoniwch Crimestoppers: 0800 555 111
Llinell Gymorth Genedlaethol Caethwasiaeth Fodern: 0800 0121700
Cefnogaeth i ddioddefwyr caethwasiaeth fodern yng ngogledd Cymru: ffoniwch BAWSO ar 0800 731 8147
Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English