• Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru

  • Gwybodaeth
  • Cyhoeddus
    • Gwybodaeth i Blant a Phobl Ifanc
      • Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant
      • Fframwaith ymddygiad rhwiol niweidiol
      • Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant
    • Gwybodaeth ar gyfer Oedolion
      • Caethwasiaeth Fodern
      • Camddefnydd Ariannol
      • Cam-drin Domestig
      • Eithafiaeth a Radicaleiddio
      • Hunan-Esgeulustod a Chelcio
      • Linellau Sirol
  • Gweithwyr proffesiynol
    • Digwyddiadau a hyfforddiant
    • Aelodau’r Bwrdd
      • BDPGC
      • BDOGC
    • Polisïau a Gweithdrefnau
    • Dogfennau’r Bwrdd
    • Adolygiadau Ymarfer
    • Gweithdrefnau Diogelu Cymru
    • Datblygu’r Gweithlu
    • Cynllun Gweithredu Camdrin Plant yn Rhywiol
  • Adnoddau
    • Briffiau 7 munud
    • Llyfrgell Dogfennau
    • PRUDiC
    • Cardiau Z
  • Blog
  • CC (FAQ)

Cam-drin Domestig

Y diffiniad ar draws y llywodraeth o drais domestig a cham-drin yw:

  • unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau o reoli, ymddygiad bygythiol, cymhellol, trais neu gam-drin rhwng unigolion dros 16 mlwydd oed, sydd, neu wedi bod yn bartneriaid agos neu’n aelodau o deulu ni waeth y genedl na’r rhywioldeb. Gall y cam-drin gynnwys, ond heb ei gyfyngu i:
  • seicolego
  • corfforol
  • rhywiol
  • ariannol
  • emosiynol

Ymddygiad o reoli – Mae ymddygiad o reoli yn ystod eang o weithredoedd wedi’u cynllunio i wneud unigol deimlo’n israddol a/neu’n ddibynnol gan eu harunigo o ffynonellau cefnogaeth, camddefnyddio eu hadnoddau a’u gallu er budd personol, eu hamddifadu o adnoddau angenrheidiol ar gyfer annibyniaeth, ymwrthedd a modd o ddianc, a rheoli eu bywyd bob dydd.

Ymddygiad cymhellol – Mae ymddygiad cymhellol yn weithred neu’n batrwm o weithrediadau o ymosod, bygythiadau, sarhad a chodi ofn, neu gamdriniaeth arall sy’n cael ei defnyddio i niweidio, i gosbi neu i ofni eu dioddefwr.

Daeth trosedd ymddygiad cymhellol neu ymddygiad o reoli i rym ym mis Rhagfyr 2015. Mae’n cario uchafswm o garchariad 5 mlynedd, dirwy neu’r ddau. Mae dioddefwyr sy’n profi ymddygiad cymhellol neu ymddygiad o reoli sydd bron iawn yn drais corfforol difrifol, ond yn achosi camdriniaeth emosiynol neu seicolegol eithriadol yn gallu dod â’r troseddwr ger bron llys.

Mae’r drosedd yn cau’r bwlch yn y gyfraith sy’n cwmpasu patrymau o ymddygiad cymhellol neu ymddygiad o reoli sy’n digwydd yn ystod perthynas rhwng partneriaid agos, cyn partneriaid sy’n dal yn cydfyw neu aelodau o deulu.

Cam-drin domestig a phobl ifanc

Mae’r newidiadau i’r diffiniad o drais domestig yn codi ymwybyddiaeth bod pobl ifanc yn y grŵp oed 16 i 17 yn gallu bod yn ddioddefwyr o drais domestig a chamdriniaeth.

Gan gynnwys y grŵp oedran hwn mae’r llywodraeth yn gobeithio annog pobl ifanc i ddod ymlaen i gael y gefnogaeth angenrheidiol, drwy linell gymorth neu wasanaeth arbenigol.

Panel y bobl ifanc

Bydd panel i bobl ifanc yn cael ei sefydlu gan y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC). Bydd y panel yn cynnwys 5 aelod rhwng 16 a 22 mlwydd oed, a fydd yn cydweithio gyda’r llywodraeth ar y polisi trais domestig a’r gwaith ehangach i frwydro trais domestig yn erbyn menywod a merched.

Cynllun datgeliad trais domestig

Rhoddwyd y datgeliad trais domestig ar waith ar draws Cymru a Lloegr o 8 Mawrth, 2014. Mae hyn yn dilyn diwedd llwyddiannus o beilot 1 blwyddyn yn ardaloedd lluoedd yr heddlu ym Manceinion Fwyaf, Swydd Nottingham, Gorllewin Mersia ac Wiltshire.

Yr hawl i ofyn

O dan y cynllun, mae gan unigolyn hawl i ofyn i’r heddlu wirio a oes gan bartner presennol neu newydd orffennol treisgar. Dyma’r ’hawl i ofyn’. Os yw cofnodion yn dangos bod unigolyn efallai mewn perygl o drais domestig gan bartner, bydd yr heddlu’n ystyried datgelu’r wybodaeth. Gall datgeliad ei wneud os yw’n gyfreithlon, yn gymesur ac yn hanfodol gwneud hynny.

Yr Hawl i Wybod

Mae hyn yn caniatáu i asiantaeth wneud cais am ddatgeliad os ydynt yn credu bod unigolyn mewn perygl o drais domestig gan eu partner. Eto, gall yr heddlu ryddhau gwybodaeth os yw’n gyfreithlon, yn angenrheidiol ac y gymesur i wneud hynny.

Hysbysiadau a gorchmynion trais domestig:

Mae gorchmynion amddiffyn trais domestig (DVPO) yn cael eu gweithredu ar draws Cymru a Lloegr o 8 Mawrth 2014. Mae hyn yn dilyn diwedd llwyddiannus i beilot un flwyddyn yn ardaloedd lluoedd yr heddlu ym Manceinion Fwyaf, Swydd Nottingham, Gorllewin Mersia ac Wiltshire.

Mae gorchmynion amddiffyn trais domestig yn bŵer newydd sy’n llenwi bwlch mewn darparu amddiffyniad i ddioddefwyr gan alluogi i’r heddlu a’r ynadon i weithredu amddiffyniad yn syth ar ôl digwyddiad o drais domestig.

Gyda DVPO, gall troseddwr ei wahardd gydag effaith uniongyrchol rhag dychwelyd i gartref a rhag cael cyswllt gyda’r dioddefwr am hyd at 28 diwrnod, gan roi amser i’r dioddefwr ystyried eu dewisiadau a derbyn y cymorth maent eu hangen.

Cyn y cynllun, roedd bwlch yn yr amddiffyn, oherwydd nid oedd yr heddlu yn gallu cyhuddo’r troseddwr oherwydd diffyg tystiolaeth, ac o ganlyniad darparu amddiffyniad i’r dioddefwr drwy amodau mechnïaeth, ac oherwydd y broses, roedd cymeradwyo gorchmynion yn cymryd amser.

Cronfa dioddefwyr gwrywaidd o drais domestig a thrais rhywiol 2011 i 2013

Ym mis Rhagfyr 2011 lansiodd y Swyddfa Gartref gronfa i gefnogi dioddefwyr domestig o drais domestig a thrais rhywiol. Mae’r sefydliadau canlynol yn llwyddiannus i gael y gronfa hon a derbyn hyd at £10,000 o gefnogi gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr gwrywaidd:

  • Survivors UK
  • Women’s Support Network
  • Staff Arch North
  • Southampton Rape Crisis
  • Canolfan Trais a Thrais Rhywiol Cofentri
  • Adfocatiaeth Blackpool
  • Cymru Ddiogelach
  • Gwasanaeth Trais Domestig Preston
  • Cymorth i Fenywod Gogledd Derby
  • GALOP (elusen gwrth-drais a chamdriniaeth LGBT Llundain)
  • the Lesbian and Gay Foundation
  • Rosa (cronfa mentrau i gefnogi menywod a merched) a Safeline.

Achosion enghreifftiol:

Mel B:

Roedd datgeliad dewr Mel B o flynyddoedd o gamdriniaeth gan ei chyn bartner Stephen Belafonte yn enghraifft glir o’r ffordd y mae cam-drin domestig yn gallu digwydd mewn haenau gwahanol o gymdeithas. Nid yw’n unigryw i un dosbarth neu gymuned, ac nid oes fath beth â ‘dioddefwr nodweddiadol’. Mae’r cyfuniad o’r gwahanol fathau o honiadau o gamdriniaeth – yn cynnwys cam-drin corfforol, rheolaeth cymhellol, trais rhywiol a thrais ariannol – yn dangos yn glir pam fod cam-drin yn drosedd dinistriol, sy’n newid bywyd. Mae’n ymddangos nad dyma’r tro cyntaf i Belafonte fod yn dreisiol tuag at bartner; mae’n hen bryd ein bod yn stopio gofyn y cwestiwn ‘pam nad yw hi’n ei adael?’ a dechrau gofyn ‘pam nad yw’n stopio?’.

Mae’r honiad bod Belafonte wedi arunigo Mel B rhag ei theulu a’i ffrindiau, a oedd yn teimlo’n ddi-rym wrth ei helpu, yn ein hatgoffa ein bod ni gyd yn ofn y stigma sy’n amgylchynu cam-drin domestig; mae’n rhaid i ni gyd ddysgu siarad am y mater os ydyn ni am ei stopio. Rydym yn llongyfarch Mel B am fod mor ddewr a chamu ymlaen i wneud yr honiad hwn yn gyhoeddus ac rydym yn gobeithio nawr ei bod hi’n gallu dechrau ail adeiladu ei bywyd.

http://www.telegraph.co.uk/news/2017/04/04/spice-girl-mel-b-takes-restraining-order-against-estranged-husband/

Mary Russell:

Roedd marwolaeth Mary Russell, 81 mlwydd oed, o achos gwaedlif ar yr ymennydd ar ôl ymosodiad honedig gan ei gŵr 88 mlwydd oed, Albert, wedi amlygu’r ffaith bod trais domestig ymysg cyplau hŷn yn fwy cyffredin nag oeddem wedi tybio.

https://www.theguardian.com/society/2011/dec/23/older-domestic-violence-victims-helpless

Margaret Castle:

Pan ofynnodd gwraig Andrew Castle o 18 mlynedd am ysgariad, ei ymateb oedd llunio ac adeiladu cadair drydanol yn ei garej a cheisio ei lladd. Ar ôl gwahodd Margaret Castle i mewn i’r garej “am sgwrs”, eisteddodd hi yn y gadair metel, gyda’r bwriad o’i bwrw hi’n anymwybodol gyda phastwn rwber cyn cysylltu’r dyfais i’r prif gyflenwad.

https://www.theguardian.com/uk/2011/jul/06/andrew-castle-sentenced-electric-chair-wife

Margaret Beardon:

Carcharwyd dyn 79 mlwydd oed o Wlad yr Haf am 12 mis am “ei cholli hi” a thagu ei wraig a oedd wedi gofalu amdani. Roedd Beardon wedi colli rheolaeth ar ôl gofalu am ei wraig am fwy na degawd.

http://www.bbc.co.uk/news/uk-england-somerset-16551871

Sylvia Rowley-Bailey:

Aeth Edwards yn “gandryll” a thrywanu Ms Rowley-Bailey sawl gwaith ar ôl iddi ei brofocio gyda sylwadau am ei fam oedd yn heneiddio, fel yr adroddwyd i’r Arglwydd Brif Ustus, y Brif Barnwr.

http://www.bbc.co.uk/news/uk-england-essex-13791512

Clipiau Fideo:

BBC Panorama – Cam-Drin Domestig yn cael ei ddal ar gamera: https://youtu.be/lYoC1PT1gTc

Behind Closed Doors: https://youtu.be/YZS1JSwBNKM

Dangerous Love: https://youtu.be/0yIAY2tbnOE

Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English

Primary Sidebar

Chwilio

Digwyddiadau a hyfforddiant
Polisiau a gweithdrefnau
Adolygiadau ymarfer
Dogfennaur bwrdd
Aelodau
Blog
Wythnos diogelu

Y Negeseuon Diweddaraf

  • Briffau 7 Munud Newydd
  • Wythnos Diogelu Genedlaethol Cymru 13 – 17 Tachwedd 2023
  • Briffau 7 Munud Newydd
  • Cyrsiau rhiantu ar-lein Solihull Approach
  • Briffau 7 Munud Newydd

Newyddlen E-Bost

Cofrestrwch i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf trwy e-bost!

Privacy Notice

Footer

Partneriaid BDGC

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Sir Wrecsam
Heddlu Gogledd Cymru
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (Cymru)
Cwmni Ailsefydlu Cymunedol

NISB Logo

Manylion Cyswyllt

Swyddog Gweinyddol Rhanbarthol i’r Bwrdd Diogelu
E-bost: regionalsafeguarding@denbighshire.gov.uk
Ffon: 01824 712903

Hysbysiad Preifatrwydd

Mewngofnodi

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Pryderu am blentyn?

Os ydych yn gwybod am blentyn sydd mewn perygl o gam-drin neu yn cael ei gam-drin, mae’n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i’r cyngor neu’r heddlu.

Os yw’r unigolyn mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu ar unwaith ar 999. Os nad yw mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch y Gwasanaethau Cymdeithasol cyn gynted â phosibl i rannu eich pryderon.

Ynys Môn
01248 725 888
01248 353 551 (y tu allan i oriau swyddfa)

Gwynedd
01758 704 455
01248 353 551 (y tu allan i oriau swyddfa)

Conwy
01492 575111
0300 1233079 (y tu allan i oriau swyddfa)

Sir Ddinbych
01824 712 200
0345 053 3116 (y tu allan i oriau swyddfa)

Sir y Fflint
01352 701 000
0345 053 3116 (y tu allan i oriau swyddfa)

Wrecsam
01978 292 039
0345 053 3116 (y tu allan i oriau swyddfa)

Poeni am Oedolyn?

Os ydych yn gwybod am oedolyn sydd mewn perygl o gam-drin neu yn cael ei gam-drin, mae’n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i’r cyngor neu’r heddlu

Os yw’r person mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr Heddlu ar unwaith ar 999. os nad ydyw mewn perygl dybryd. ffoniwch y Gwasanaethau Cymdeithasol cyn gynted â phosibl i rannu eich pryderon.

Ynys Môn
01248 750057
01248 353551 (Y tu allan i oriau swyddfa)

Gwynedd
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant: 01766 772577
01248 353551 (Y tu allan I oriau swyddfa)

Conwy
Oedolion:
0300 4561111
0300 1233079 (Y tu allan i oriau swyddfa)

Sir Ddinbych
0300 4561000
0345 053 3116 (Y tu allan i oriau swyddfa)

Sir y Fflint
03000 858858
0845 053 3116 (Y tu allan I oriau swyddfa)

Wrecsam
01978 292066
0345 053 3116 (Y tu allan I oriau swyddfa)

Copyright © 2023 · Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru · Mewngofnodi

  • Cymraeg
  • English