Yng ngoleuni’r gwersi a ddysgwyd yn ddiweddar o Adolygiad Ymarfer Plant, mae’r canllawiau wedi’u diweddaru i adlewyrchu Llais y Plentyn a Gweithdrefnau Diogelu Cymru wedi’u diweddaru.
Mae’r canllawiau ymarfer hyn yn ei gwneud yn glir bod gan blant anabl yn union yr un hawliau dynol i fod yn ddiogel rhag camdriniaeth ac esgeulustod, i gael eu diogelu rhag niwed a chyflawni canlyniadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 (Cymru) â phlant nad ydynt yn anabl.
Fodd bynnag, mae angen camau gweithredu ychwanegol ar blant anabl. Mae hyn oherwydd eu bod yn profi mwy o fregusrwydd oherwydd agweddau negyddol am blant anabl a mynediad anghyfartal i wasanaethau ac adnoddau, ac oherwydd efallai bod ganddynt anghenion ychwanegol o ran amhariadau corfforol, synhwyraidd, gwybyddol a/ neu o ran cyfathrebu.