Comisiynydd Plant Cymru Digwyddiad – Nodyn i’ch Dyddiadur  

Hannah Cassidy

Children's Commissioner for Wales Logo

Cymru i bob plentyn: Ymgysylltu effeithiol ac ystyrlon â phlant anabl, a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol

Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad am ddim ar 7 Mawrth 2025 yn yr Optic, Llanelwy i:  

  • gymryd rhan mewn gweithdai i’ch helpu i wella eich gwaith ymgysylltu gyda phlant anabl, a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol
  • dysgu am ein fframwaith hawliau plant a sut y gall y fframwaith eich helpu i gyflawni eich dyletswyddau statudol
  • dweud wrthym amdanoch chi a’ch gwaith, a sut y gallwn eich cefnogi

Rydyn ni eisiau i Gymru fod yn wlad sy’n amddiffyn ac yn hyrwyddo hawliau pob plentyn. Mae hyn yn cynnwys plant anabl a phlant gydag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae dyletswyddau penodol ar gyrff cyhoeddus i weithio gyda phlant a phobl ifanc, gan gynnwys y ddyletswydd ar awdurdodau lleol ym Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 i hyrwyddo a hwyluso cyfranogiad plant mewn penderfyniadau a allai effeithio arnynt, ac mae Pennod 5 Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 yn esbonio sut mae angen i awdurdodau lleol a chyrff y GIG roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

Byddwch yn dysgu mwy am y dyletswyddau hynny yn y digwyddiad a sut y gallai dull gweithredu hawliau plant eich helpu i’w cyflawni ac i sicrhau cyfranogiad effeithiol gan bob plenty a pherson ifanc.

Byddwn yn clywed yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc am yr hyn sy’n gweithio, a gan gyrff cyhoeddus sydd wedi cynnwys plant a phobl ifanc yn llwyddiannus wrth wneud penderfyniadau.

Ein nod yw y bydd pawb yn gadael ein digwyddiad gyda nod pendant a fydd yn datblygu eich gwaith ar gyfranogiad ac ymgysylltiad plant anabl a phlant gydag anghenion dysgu ychwanegol. Does dim angen angen i chi ddod â neu baratoi unrhyw beth; byddwn yn eich tywys chi trwy bopeth yn ein sesiynau rhyngweithiol trwy gydol y dydd.

Rydym am i’n digwyddiad fod yn groesawgar i bawb, i’r rhai sy’n newydd i’r ardal hon a’r rhai gyda llwyth o brofiad.

Nid yw’r diwrnod hwn wedi’i fwriadu ar gyfer uwch arweinwyr, ond y rhai sy’n fwy tebygol o weithio’n uniongyrchol gyda phlant.

Cofrestru eich diddordeb cyn cofrestru ffurfiol

Rhannwch eich manylion gyda ni ar y ffurflen hon. Byddwn yn anfon e-bost atoch yn uniongyrchol pan fydd ein cofrestriad ffurfiol yn fyw ac mae gennym agenda lawn ar gyfer y diwrnod.

Gadael sylw