Croeso i wefan Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru. Rwyf yn falch iawn bod y wefan yn cael ei lawnsio heddiw. Mae’n garreg filltir bwysig yn natblygiad y Bwrdd ac bydd y wefan yn rhoi cyfle i fusnes y Bwrdd fod ar gael i bawb. Yn fuan, bydd y wefan yn cael ei datblygu yn bellach a bydd yn cynnwys gwybodaeth benodol i rhieni, gofalwyr, pobol ifanc a phlant. Ond am y tro mae’r wefan wedi ei anelu at ymarferwyr. Dros y misoedd nesaf bydd y wefan yn cynnwys gwybodaeth ynglyn a diogleu oedolion hefyd.
Rwyf yn gobeithio y byddwch yn gweld y wefan yn ddefnyddiol ac rwyf yn eich annog i ymweld a’r wefan yn rheolaidd gan bydd y tudalennau yn cael ei diweddaru yn gyson a gallwch ddarganfod gwybodaeth am y digwyddiadau. Bydd manylion ynglyn a’r gynhadledd flynyddol ( 15fed Hydref 2015) yn cael ei gynnwys yn fuan ynghyd a manylion y daith Adolygiad Ymarfer Plentyn ar draws Gogledd Cymru.
Rwyf yn eich annog i rhannu’r wefan gyda chydweithwyr.
Gyda Diolch
Jenny Williams
Cadeirydd Bwrdd Diolgelu Plant ac Oedolion Gogledd Cymru
Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English
Gadael Sylw