Lansiad Protocol Wedi ei Diweddaru ar gyfer Rheoli Cwynion sy’n Ymwneud â Chynadleddau Amddiffyn Plant
Pwrpas
- Sicrhau bod yna ddealltwriaeth glir o ymateb Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru ar ôl derbyn cwynion gan rieni, rhai sy’n rhoi gofal a phlant am swyddogaeth Cynadleddau Amddiffyn Plant.
- Sicrhau bod holl gwynion sy’n ymwneud â chanlyniad a phroses Cynadleddau Amddiffyn Plant yn cael eu derbyn ac yn cael ymateb o fewn yr amserlen a amlinellir yn y weithdrefn hon.
- Sicrhau bod holl gwynion yn cael eu monitro a dysgu gwersi ar gyfer ymarfer.