Mae We Stand yn fudiad gwirfoddol sy’n cefnogi teuluoedd y mae cam-drin plant yn rhywiol yn effeithio arnynt. Fe’i sefydlwyd dros 30 mlynedd yn ôl gan bedair mam gyda phlant oedd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol. Sylweddolon nhw fod cefnogaeth i’w plant ond nid i rieni/gofalwyr.
Mae We Stand yn ceisio galluogi teuluoedd I sicrhau a chynnal gwell ansawdd bywyd trwy:
- Ailadeiladu hyder
- Lleihau unigedd
- Cryfhau’r cwlwm rhwng rhiant a phlentyn
- Grymuso rhieni a rhoi’r sgiliau iddynt i’w diogelu eu hunain a’u plant.
Rhif y llinell gymorth 0800 – 980 – 1958
Mae ein llinell gymorth arbenigol yn lle cyfrinachol, cefnogol, sy’n cynnig gwybodaeth i bob rhiant/gofalwr ‘nad ydynt yn cam-drin’, a gweithwyr proffesiynol sy’n cael eu heffeithio gan achosion o gam-drin plant yn rhywiol. Ar hyn o bryd mae ein llinellau ar agor:
Dydd Llun: 10am – 2pm
Dydd Mawrth: 10am – 2pm
Dydd Mercher: 10am – 2pm
Dydd Iau: 10am – 2pm
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan: http://www.westand.org.uk/wales


