Cyhoeddi Adolygiad Ymarfer Plant: CPR Sir y Fflint 1

Sara Lloyd Evans

Comisiynodd Gadeirydd Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru Adolygiad Ymarfer Plant Cryno ym mis Hydref 2014 yn dilyn marwolaeth baban 8 wythnos oed yn Sir y Fflint, nad oedd ar y gofrestr amddiffyn plant nac yn blentyn oedd yn derbyn gofal. Achos marwolaeth y plentyn oedd trawma i’r pen

Yn ystod yr adolygiad hwn, cynhaliwyd ymchwiliad troseddol ac fe gyhuddwyd tad y plentyn o lofruddiaeth. Ni chynhaliwyd y treial tan ar ôl i’r broses adolygu ddod i ben ac yn ystod y treial troseddol plediodd y tad yn euog o ddynladdiad. Mae wedi’i garcharu yn awr.

 

Cafodd yr adroddiad Adolygiad Ymarfer Plant Cryno terfynol ei anfon i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2016 ac, o dan y rheoliadau, gall Tîm Diogelu Llywodraeth Cymru dynnu rhannau eraill o Lywodraeth Cymru a’r Grŵp Arolygiaeth i mewn os bydd angen unrhyw gamau pellach. Yn yr achos hwn nid oedd angen unrhyw gamau pellach.

 

Mae’r achos hwn yn amlygu pwysigrwydd a’r angen i gynnal asesiad cyn-geni amlasiantaethol. Yn yr achos hwn, mae’n debyg pe bai asesiad cyn-geni amlasiantaethol wedi’i gynnal byddai canlyniad gwahanol i’r asesiad gallu rhieni ac mae’n debyg y byddai’r achos wedi arwain at Gynhadledd Achos Amddiffyn Plant. Fodd bynnag, mae’r adolygwyr annibynnol yn nodi’n glir, hyd yn oed pe bai hyn wedi’i gyflawni, nid oes tystiolaeth i awgrymu y gellid rhagweld neu atal y farwolaeth.

Roedd pwyntiau dysgu allweddol mewn perthynas â rhannu gwybodaeth rhwng y ddwy ardal GIG cyfagos.

Mae elfennau dysgu wedi codi ar gyfer yr holl asiantaethau o’r broses adolygu, yn enwedig o ran rhannu gwybodaeth o fewn a rhwng asiantaethau. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y cynllun gweithredu.

Mae cynllun gweithredu wedi’i sefydlu ac yn cael ei fonitro gan Fwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru i sicrhau bod yr holl asiantaethau oedd yn gweithio gyda’r teulu wedi dysgu o’r sefyllfa hon.

Mae’r adroddiad i’w darganfod yn adran Adolygiad Ymarfer Plentyn ar y wefan.

Leave a Comment