Cyhoeddi Adroddiad Cryno Adolygiad Plentyn : AYP Flint 2

Sara Lloyd Evans

Bu i Gadeirydd Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru gomisiynu Adolygiad Ymarfer Plentyn Cryno yn Hydref 2014 yn dilyn marwolaeth plentyn 2 wythnos oed oedd yn adnabyddus i Wasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint ond oedd ddim yn destun canllawiau amddiffyn plant. Nid oedd yn bosibl cadarnhau beth oedd achos marwolaeth y plentyn.

 Gyrrwyd yr adroddiad terfynol i Llywodraeth Cymru yn Medi 2015, ac o dan y rheoliadau, os oes angen gweithredu pellach, gall Tim Diogelu Llywodraeth Cymru dynnu adrannau eraill o’r Llywodraeth a’r Grwp Adolygwyr ynghyd. Ni gafwyd gweithredu pellach gan Llywodraeth Cymru.

 Bu i’r adolygwyr annibynol adnabod sawl esiampl o ymarfer da, fel perthynas weithio dda rhwng yr asiantaethau, ac yn benodol amlygwyd cyfathebu da. Ond bu i’r adolygiad hefyd adnabod yr angen am ymyrraeth cynnar mewn achosion lle mae hanes o esgelustod hir dymor. Daeth yr adolygwyr i’r casgliad na fu i’r ymaferwyr gysidro anghenion rhieni ifanc a di-brofiad a pha gefnofaeth ychawanegol oedd ei angen.

 Daeth yr adolygwyr i’r casgliad nad oedd tystiolaeth bod marwolaeth y plentyn wedi gallu ei rhagweld neu y gellid ei atal.

 Mae cynllun gweithredu wedi ei lunio ac sydd yn cael ei fonitro gan Fwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru er mwyn sicrhau bod y dysgu a’r adlewyrchu sydd wedi cymeryd lle yn cael ei rhannu ar draws yr asiantaethau oedd yn gweithio gyda’r teulu.

Mae’r adroddiad ar gael ar adran Adolygiad Ymarfer Plentyn.

Leave a Comment