Datblygwyd y canllawiau statudol ar Addysg Ddewisol yn y Cartref, i gefnogi awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol mewn perthynas â phlant sy’n cael eu haddysgu gartref.
Mae’r canllawiau statudol yn helpu sicrhau bod pob plentyn yn cael cefnogaeth i gael mynediad at y gwasanaethau cyffredinol a budd-daliadau sydd fel arfer ar gael i blant a phobl ifanc mewn addysg prif ffrwd. Maent hefyd yn helpu egluro’r gofynion presennol yn ôl y gyfraith a’r cyfrifoldebau ar rieni ac awdurdodau lleol i sicrhau cysondeb ymarferol i bob plentyn, waeth sut maen nhw’n derbyn eu haddysg.
Mae’r canllawiau wedi’u datblygu yn dilyn ymgynghoriad ar-lein ac ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys plant a theuluoedd sy’n cael eu haddysgu gartref.
https://www.llyw.cymru/canllawiau-addysg-ddewisol-yn-y-cartref
Mae’r neges hon hefyd ar gael yn: English
Gadael Sylw