Cyrsiau rhiantu ar-lein Solihull Approach

Hannah Cassidy

Mae’n anodd credu bod dros dwy flynedd ers lansio cyrsiau rhiantu ar-lein Solihull Approach yma yng Ngogledd Cymru. Hyd yma mae dros 5,951 o unigolion o Ogledd Cymru wedi dechrau neu gwblhau un neu fwy o’r cyrsiau, sy’n ffigwr rhyfeddol.

Mae’n anodd credu bod dros dwy flynedd ers lansio cyrsiau rhiantu ar-lein Solihull Approach yma yng Ngogledd Cymru. Hyd yma mae dros 5,951 o unigolion o Ogledd Cymru wedi dechrau neu gwblhau un neu fwy o’r cyrsiau, sy’n ffigwr rhyfeddol.

Ffeithiau o ddiddordeb i chi:

Er mwyn ehangu’r cyrhaeddiad i deuluoedd ar draws Gogledd Cymru hyd yn oed ymhellach rydym wedi gwneud rhywfaint o waith dadansoddi i sefydlu sut y clywodd dysgwyr am y cyrsiau. Daeth y nifer uchaf o atgyfeiriadau o leoliadau ysgol, gyda’r ffigwr yn 31%. Nododd rhai dysgwyr eu bod wedi clywed am y cyrsiau trwy Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n galonogol iawn, gweler y data isod ar lefel awdurdod lleol.

Sut gall Solihull Approach gefnogi eich gweithlu a defnyddwyr gwasanaeth?

Nod Solihull Approach yw i gynyddu iechyd a lles emosiynol, trwy ddarparu fframwaith i ddeall a chefnogi datblygiad a chynnal perthnasoedd sensitif rhwng rhieni / gwarcheidwaid a’u babanod / plant / pobl ifanc yn eu harddegau.

Yn ei dro, mae ymlyniad emosiynol yn galluogi babanod/plant/pobl ifanc yn eu harddegau i ddatblygu sgiliau hunanreoleiddio emosiynol ac ymddygiadol am oes, a thrwy hynny gynyddu gwydnwch hirdymor ac iechyd meddwl a lles.

Mae nodweddion arbennig cyrsiau Solihull Approach yn cynnwys: 

  • Y defnyddir ar gyfer datblygu’r gweithlu: mae’n cynyddu sgiliau a gwybodaeth, yn gyson ac yn rhannu iaith ar draws asiantaethau sy’n defnyddio Solihull Approach
  •  Y gellir ei ddefnyddio ar gyfer ymyrraeth gynnar ac atal yn y blynyddoedd cynnar
  • Y gellir ei ddefnyddio i bawb mewn tîm e.e. Canolfan Blant, Uned Rieni a Babanod, Ysgolion (o dderbynyddion i staff cymorth i athrawon)
  • Darparu cymorth ar gyfer rhaglenni magu plant o genhedlu hyd at  glasoed
  • Rhoi pwyslais arbennig ar gynnwys tadau
  • Cynyddu hygyrchedd rhaglenni rhiantu trwy gyrsiau ar-lein, sydd â’r un cynnwys â’r grwpiau wyneb yn wyneb
  • Darparu fframwaith damcaniaethol ar gyfer gweithio gydag anawsterau emosiynol ac ymddygiad ac yn darparu tystiolaeth ategol e.e. ar gyfer Ofsted

Lledaenwch y gair ymhlith eich defnyddwyr gwasanaeth a staff:

Yn seiliedig ar lwyddiant a diddordeb yng nghyrsiau Solihull Approach dros y ddwy flynedd diwethaf, rydym wedi llwyddo i ymestyn y cytundeb a pharhau â’r drwydded am 12 mis ychwanegol. 

Mae hyn yn golygu y gallwch barhau i hyrwyddo ac ailgyfeirio eich defnyddwyr gwasanaeth i’r cyrsiau AM DDIM tan 31 Hydref 2023. Gallwch gael mynediad am ddim trwy http://www.inourplace.co.uk trwy ddefnyddio cod NWSOL. Unwaith y byddant wedi cofrestru, bydd gan deuluoedd fynediad oes i’r cyrsiau.

Ynghlwm i’r e-bost yma mae taflen y gallwch ei defnyddio i hyrwyddo’r cyrsiau  rhiantu a’r cyrsiau penodol ar gyfer bobl ifanc yn eu harddegau ymhlith eich defnyddwyr gwasanaeth.  Gallwch ei hargraffu a’i gosod fel poster o amgylch eich sefydliad, ei lanlwytho i wefan eich gwasanaeth, tudalennau cyfryngau cymdeithasol neu ei hyrwyddo o fewn i gylchlythyr.

Hoffem glywed gennych!

Os hoffech drafod, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau’n ymwneud â chyrsiau ar-lein Solihull Approach, cysylltwch â thîm Solihull Appraoch Gogledd Cymru drwy anfon e-bost at NWSOL@wales.nhs.uk. Byddem wrth ein bodd clywed gennych ac yn gwerthfawrogi eich barn a’ch syniadau yn fawr iawn drwy lenwi ein holiadur i staff ar Solihull Approach, wnaiff ddim cymryd mwy na 5 munud i’w lenwi drwy’r linc yma.

Diolch am eich cefnogaeth barhaus wrth hyrwyddo cyrsiau ar-lein Solihull Approach ar ein rhan.

Leave a Comment