Mae aelodau Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn dymuno mynegi eu cydymdeimlad â ffrindiau a theulu Ethan sydd wedi cael eu heffeithio gan ei farwolaeth drasig.
Nawr bod y rhai a fu’n gyfrifol am farwolaeth Ethan wedi cael eu dwyn gerbron y llys, bydd y Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn parhau â’r Adolygiad Ymarfer Plant, a gynhelir yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, “Gweithio gyda’n gilydd i ddiogelu pobl” Cyfrol 2.
Nid yw’r Adolygiad Ymarfer Plant hwn yn rhan o’r broses droseddol/ymchwiliol, ei nod yw archwilio ymwneud asiantaethau ag Ethan a’i deulu i nodi pa wersi y gellir eu dysgu ar gyfer y dyfodol.
Mae’r Bwrdd eisoes wedi penodi Cadeirydd Annibynnol a fydd yn cael ei gefnogi gan ddau adolygydd annibynnol. Bydd asiantaethau sy’n eistedd ar y Panel yn casglu gwybodaeth am eu ymwneud â’r plentyn a’r teulu, er mwyn datblygu amserlen o ddigwyddiadau arwyddocaol a ddigwyddodd cyn y digwyddiad trasig.
Cyflwynir y wybodaeth hon i ddigwyddiad dysgu amlasiantaeth, a fynychir gan ymarferwyr a oedd â chysylltiad uniongyrchol â’r plentyn a’r teulu fel y gallant rannu eu dealltwriaeth o’r hyn sydd wedi digwydd a nodi pwyntiau dysgu allweddol.
Mae’n ofynnol hefyd i’r Panel geisio cyfleoedd i ymgysylltu â’r teulu, lle bo’n briodol, i gefnogi’r dysgu hwn. Yn dilyn y digwyddiad dysgu, bydd adolygwyr annibynnol yr achos yn casglu ac yn dadansoddi’r holl wybodaeth a gasglwyd i gwblhau adroddiad, gan amlygu’r dysgu o’r achos, unrhyw feysydd o arfer da ac argymhellion i wella arferion diogelu yn y dyfodol.
Yna cyflwynir yr adroddiad i’r Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru Rhanbarthol i’w graffu a’i gymeradwyo, cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo’n derfynol. Mae’n hanfodol bwysig bod yr Adolygiad CPR yn cael ei wneud yn drylwyr. Gall hyn fel arfer gymryd tua 6 mis i’w gwblhau, fodd bynnag, bydd yr amserlenni’n dibynnu ar lawer o ffactorau gan gynnwys cymhlethdod yr achos unigol, maint yr ymchwiliadau a’r ymgysylltiad â phartneriaid sy’n ofynnol a’r angen i’r panel ystyried yn llawn ac yn fanwl yr holl dystiolaeth mewn perthynas â’r amgylchiadau a arweiniodd at y digwyddiad trasig.
Rydym yn rhagweld y bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r bwrdd yn gynnar yn 2026.


